Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Laura, Kate a'r iaith

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:55, Dydd Llun, 15 Mawrth 2010

Yr hyn a ddaliodd fy sylw pan ddigwyddais roi fy llaw yn annisgwyl ar Laura Jones y dydd o'r blaen oedd rhagair Kate Roberts i'w nofel i blant am Deian a Loli a gyhoeddwyd fis Tachwedd 1930.

Lled ymddiheuro y mae hi - neu gyfiawnhau ei hun, o leiaf, am ddefnydio yr hyn mae'n ei alw yn "iaith lafar" yn y nofel.

Mae'n agor cil drws ar gyfnod go wahanol i'r un presennol o ran beth oedd yn destun pryder ynglÅ·n ag arddull sgrifennu yn y Gymraeg.

"Weithiau, yn enwedig gan athrawon ysgolion, fe feirniedir awdur am ddefnyddio gormod ar yr iaith lafar," medda hi gan fynd ymlaen . . .

"Hyd y gwelaf i, mae'n amhosibl gwneuthur stori heb ddefnyddio ffurfiau llafar pan fo pobl yn siarad â'i gilydd.

"Yn Lloegr, fe sieryd pob dosbarth a gafodd addysg, iaith llyfr er y gellir dywedyd yn aml oddiwrth awgrym mewn acen o ba ran o'r wlad y deuant. Yng Nghymru mae'n wahanol. Tafodiaith a siaredir gan bawb bron, oddigerth efallai gan bregethwyr a Chymry a aned tu allan i Gymru.

"I mi, felly, byddai rhoi Cymraeg llyfr yng ngenau cymeriadau stori, yn enwedig pobl cefn gwlad, yr un peth a mursendod yn y cymeriadau eu hunain. Peth arall, fe gollid llawer idiom sy'n prysur fynd ar goll wrth roddi iaith llyfr yng ngenau'r cymeriadau, oblegid mae iaith llyfr heddiw yng Nghymru yn beth glasdwraidd iawn.

"Eto ni chlywais i erioed neb yn cwyno yn erbyn Daniel Owen am dafodiaith ac idiomau Sir Fflint a siaredir gan bobl fel Tomos Bartli. Fodd bynnag, dyma fi wedi paratoi ychydig o fwyd llwy drwy egluro tipyn ar elfennau iaith lafar y rhan hon o'r wlad y'm ganed i."

Ac mae hi'n mynd ymlaen i nodi rhai o'r camgymeriadau gramadeg sydd i'w cael yn y llyfr wrth iddi atgynhyrchu'r iaith lafar honno.

Mae'r 'camgymeriadau' eu hunain yn ddifyr megis dweud tydi a tydyn am nid ydynt; dweud yn mwynhau ei hun yn lle yn ei fwynhau ei hun; dweud efo Twm yn lle efo Thwm ac yn y blaen.

Nid fy mwriad wrth sôn am hyn yw gwneud unrhyw bwynt. Dim ond dyfynnu er mwyn dangos sut mae'r oes - a'r iaith - wedi newid a rhannu fy syndod fod hwn yn gymaint pwnc trafod fod angen ei drafod mewn rhagair nofel.

Dau beth arall mae rhywun yn sylwi arno yn y nofel yw y parch mawr i dreigladau a hefyd yr amrywiaeth o ffurfiau berfol oedd yn cael eu defnyddio o gymharu â heddiw.

  • Troes y tywydd.
  • I wneuthur pethau'n waeth.
  • Canfu Mr Lloyd.
  • Fe hoffasai Loli ddywedyd.
  • Buasai ar dân gan deimladau.
  • Euthum ymlaen
  • Ychwanegasai'r ysgolfeistr
  • Deffrowyd hi
  • Aethant i fyny i'r llofft..

Uu peth arall cyn gorffen mwydro.
Copi o argraffiad cyntaf 1930 o'r nofel fûm i'n ei ddarllen lle cyfeirir ar dudalen 36 at gymeriad "yn gweithio fel 'black' pan fydd hi wrthi."

Wn i ddim oes yna argraffiad cyfoes o Laura Jones - ond byddai'n ddiddordol gweld a gafodd y plismyn cywirdeb gwleidyddol eu paflau ar hwnna.
Ac a haedda brenhines ein llên gael ei chyhuddo o fod yn hiliol ar ei sail.
Yng ngeiriau'r papur arholiad, trafodwch

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 06:30 ar 17 Mawrth 2010, Wil ysgrifennodd:

    Rydw i'n cofio Gwynfor Evans, ar lwyfan Cynhadledd y Blaid tua diwedd y chwedegau, yn canmol rhyw Bleidiwr ymroddgar drwy ddweud ei fod yn gweithio fel blac dros y Blaid.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.