Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Am ddweud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:58, Dydd Gwener, 19 Mawrth 2010

Rygbi, teledu, iaith, gwestai, bingo - rhai o'r pethau gafodd sylw yn ystod yr wythnos ac ar fore Gwener cyfle i ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

Dyma'r dyfyniadau:

  • Dydi'r ffaith fod y coesau yn fwy sigledig a'r cluniau'n 'chydig yn doji ddim yn golygu bod y galon yn llai tanbaid - Susie Weldon o Bristol 124-7 yn ymateb i'r ganmoliaeth i Siân Phillips 76 oed yn actio rhan Juliet yng nghynhyrchiad y Bristol Old Vic o 'Romeo and Juliet'.
  • Pe byddai'r apelydd yn gwisgo'r un dillad yn aml pan yn ymddangos ar y teledu byddai'n colli ei gwaith. Fe fyddai'r apelydd yn barod i beidio â gwisgo dillad o gwbl pan yn gwneud ei gwaith ond mae ei chyflogwyr yn disgwyl iddi fod wedi gwisgo amdani - cyfreithiwr Sian Williams, cyflwynydd Â鶹Éç Breakfast, wrth gyflwyno ei hachos am lwfans treth ar yr arian mae'n eu gwario ar ddillad.
  • O'r holl ddarlledwyr eraill yng Nghymru mae S4C ar y brig o ran gwerthfawrogiad i'w rhaglenni nhw, i'w cyfraniad nhw a beth mae pobl yn meddwl o'r sianel - John Walter Jones, cadeirydd Awdurdod S4C, yn 'Golwg'.
  • Un o berlau mawr Cymreictod ein hoes yw S4C - Angharad Mair yn 'Golwg'.
  • Edrych ymlaen yr ydw i, i weld pwy fydd y Cymro neu'r Gymraes fydd yn dechrau ymprydio'r diwtrnod y daw'r neges o Lundain eu bod am ei diffodd? - Madog Mwyn yn 'Y Cymro' yn synio y gall dyfodol S4C fod mewn perygl.
  • Diffyg mynychu oedfaon yw llawer o'r drwg greda i [am Gymraeg gwallus ar y cyfryngau]. Mae'r plant, athrawon, a'u rhieni . . . heb fod mewn llan na chapel erioed, a rhaid cofio mai mewn addoldai oedd yr iaith gywiraf i'w chlywed - Llythyr yn y 'Daily Post Cymraeg' gan Beti Jones, Penrhyndeudraeth.
  • Mae pobl i'w gweld yn hoffi clywed acen Gymraeg. Mae'n un eithaf braf i wrando arni ac fe allai rhywun ddadlau ei bod yn cynnig ei hun ar gyfer dweud stori - Jeremy Lee, cyfarwyddwr asiantaeth JLA sy'n trefnu ymweliadau 'enwogion' â digwyddiad neu i annerch cyfarfod.
    Datgelwyd yn y 'Wales on Sunday' y byddai'n rhaid talu £25,000 neu fwy am bresenoldeb Katherine Jenkins ond y byddai'r cyn chwaraewr rygbi, Ieuan Evans neu'r gwleidydd, Lembit Opik yn dod am rhwng £1,000 a £2,500
    .
  • Mae o wedi newid ei rifau ffôn ac yn anwybyddu llythyrau, ebyst a chardiau pen-blwydd rwy'n eu hanfon - Mam Christian Bale yn y 'Wales on Sunday' yn dilyn ffrae deuluol.
  • Yr ydw i wedi bod erioed yn eitha tawel ac yn berson rhesymol neis - Charlotte Church.
  • Nid dim ond beth sydd yn cael ei ddweud sydd yn bwysig ond sut caiff ei ddweud - Y Barnwr Dewi Watkin Powell yn pwysleisio gwerth rheithwyr sy'n deall Cymraeg yn hytrach na dibynnu ar gyfieithiad o dystiolaeth Gymraeg.
  • Syniad da fyddai i bwy bynnag sy'n cyflawni gwaith yr hen Fwrdd Croeso erbyn hyn greu rhestr gynhwysfawr genedlaethol o westai lle nad yw S4C ar gael er mwyn inni beidio mynd i aros iddyn nhw - Llythyr yn 'Y Cymro' gan Elfyn Pritchard.
  • Yr ydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn meddwl eto am y dreth. Wedi'r cyfan os bydd yn ein gyrru i gyd allan o fusnes ni fydd yn gallu casglu'r dreth - Nigel Griffiths, cadeirydd Clwb Bingo Argos Llanelli yn ofni bygythiad cynnydd mewn treth gamblo.
  • Mae'r ddynes dew wedi canu . . . - Michael Pearlman gohebydd pêl-droed gyda'r 'South Wales Argus' yn dilyn buddugoliaeth Casnewydd nos Lun a dyrchafiad y tîm i'r Gynghrair Conference.
  • Doeddwn i ddim yn talu llawer o sylw pan oedd y tîm yn cael ei gyhoeddi. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael chwarae - Tom Prydie, 18, y chwaraewr rygbi ieuengaf erioed i gael ei ddewis i chwarae dros Gymru.
  • Felly, ar gyfer yr Eidal ac wedyn, bydd y tactegau yn cael eu drilio i'r chwaraewyr yn yr un modd ag y mae plant yn dysgu eu tablau - Gwyn Jones, sylwebydd rygbi yn y 'Western Mail', am ddulliau hyfforddi Cymru ar gyfer gemau rygbi'r dyfodol.
  • Ai dyma'r 'Chwe Gwlad' gwaethaf mewn hanes - Pennawd yn y Western Mail heddiw..

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.