Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau gollwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:19, Dydd Sul, 13 Rhagfyr 2009

Y gair cyntaf ddaeth i'm meddwl i wrth ddarllen am y pedwar yna o Gymru yn cyrraedd Copenhagen ar gefn beic oedd deurodur.

Deuroduron - a deurodwyr am y bobl sy'n eu marchogaeth - yn un o nifer o eiriau Cymraeg a fathwyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ond â fethodd a chydio yn nychymyg y Cymry.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, yn 1908 y bathwyd y gair deurodur am feic. Yn gyfuniad o dau + rhod a'r terfyniad ur fel ag yn modur.

Deurodurwyr Cymorth Cristnogol yn Copenhagen

Ond enillodd o mo'i blwyf mwy nag a wnaeth perdoneg am biano a pherdonegydd am bianydd..

Mae rhestr hir i'w llunio o'r geiriau rhyfedd hyn nad enillodd eu plwyf yng ngwald yr iaith.

Felly, beth am inni gychwyn rhestr ohonyn nhw fan hon, nawr, gyda gwahoddiad i chi ychwanegu ati - trwy ddefnyddio'r pellseinydd hyd yn oed fel yr oedd rhai am alw'r teleffon.

Ac o feddwl, beth fyddai'r bathwyr hyn wedi ei gynnig am e-bost ac e-byst.

  • Asyn rhesog - sebra
  • Awrlais - cloc
  • Cawrfil - eliffant
  • Cerbydres - trên
  • Crasfara - tôst
  • Crogyddion - bresus
  • Cyllellan - cyllell boced
  • Hinfesurydd - baromedr
  • Llodrau - trowsus
  • Myglys - baco
  • Pellebr - telegram
  • Pellwelyr - telesgop
  • Pleserwest - picnic
  • Rhaglaw - ymbarél
  • Tyniedydd - tractor
  • Ysgytlaeth (bathiad diweddar) - milk shake

Cofiwch anfon rhagor - ond rhaid iddyn nhw fod yn enghreifftiau go iawn nid ffrwyth eich dychymyg!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:26 ar 14 Rhagfyr 2009, ³§¾±Ã¢²Ô ysgrifennodd:

    Diddosben - het

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.