Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Celpio wrth glapio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:22, Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2009

Mi fydda i'n meddwl mai'r peth anoddaf i rywun sy'n cymryd drosodd swydd rhywun arall ydi peidio ag ymddangos fel pe byddai'n feirniadol o'r sawl oedd yno o'i flaen.

Yr oeddwn i'n meddwl hyn pan gamodd Carwyn Jones i esgidiau Rhodri Morgan y dydd o'r blaen, er enghraifft.

Wrth gwrs, bod Carwyn eisiau rhoi'r wedd orau ar yr hyn mae o'n bwriadu ei wneud ond a lwyddodd o i wneud hynny heb roi'r argraff i Rhodri fod yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd?

Wrth gymeradwyo ei ddyfodol ei hun a roddodd o gelpan lawchwith i'w raglfaenydd? Fe adawai i'r myrdd ymgynghorwyr gwleidyddol fynd i'r afael â honna.

Yr un oedd y perygl i olygyddesau newydd Taliesin - yn frwd i argyghoeddi darllenwyr y bydd y cylchgrawn yn ddeunydd darllen anhepgor yn eu dwylo hwy.

"Rydym ni'n llawn syniadau cyffrous ynglŷn â sut i anadlu bywyd newydd i'r cylchgrawn ac mae'r ddwy ohonom ar bigau i ddechrau o ddifrif ar y gwaith gan gamu'n hyderus gyda Taliesin i lygad y dyfodol," meddan nhw yn Y Cymro'r bore ma.

Hawdd iawn fyddai i rai dybio mai'r enyniad yw nad oedd gan y golygyddesau sy'n ymadael syniadau cyffrous ac nad oedd bywyd i'r cylchgrawn dan eu gofal hwy.

Peryg ydi bod rhywun yn darllen gormod i'r pethau ma - ond fe fyddai'n ddiddorol bod yno pan fydd y pedair yn cyfarfod nesaf a'r dyfyniad yna mewn ffram ar y wal.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.