Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Grymoedd golygyddol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:35, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Mae'r drafodaeth ynglŷn â faint o olygu sydd yna ar gyfrolau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol cyn i ni eu gweld nhw yn tyfu'n un ddifyr - ac astrus.

Rwy'n siŵr bod sawl un dan y camargraff fod yr hyn a ddarllenwn ni yng nghyfrolau y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen a'r 'Cyfansoddiadau' yr hyn a welodd y beirniaid hefyd.

Ar wahân, efallai, i adfer ambell i goma coll, dyblu rhyw 'n' neu ddwy a chywiro ambell i wall sillafu.

Ond ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun daeth yn eithaf amlwg fod mwy na hynny'n digwydd weithiau.

Gwilym Owen - mynd at wraidd y golygu gweithiau buddugol.jpg

Yn achos Igam Ogam, nofel fuddugol 'y Daniel' yng Nghaerdydd y llynedd, er enghraifft, ail luniwyd yr ail hanner trwy adael allan dalp o'r hyn anfonodd yr awdur i'r gystadleuaeth er mwyn cyflymu'r stori.

Mae hynny'n swnio'n dipyn o newid - yn sicr yn fwy na gosod to bach fan hyn neu ddodi 'n' neu ddwy fan draw.

Roedd yn sylw digon teg ar y rhaglen; A yw llyfrau hynny sydd angen eu doctora yn haeddu ennill y wobr yn y lle cyntaf?

Ac yn ôl golygydd Y Lolfa, Alun Jones, bu enghreifftiau hefyd o wella pethau mor gysygredig ag awdlau cyn i ddarllenwyr y Cyfansoddiadau eu gweld!

Mae rhywun yn cael ei demtio i holi tybed a yw'r Eisteddfod Genedlaethol gymaint o eisiau seremoniau gwobrwyo fod ei beirniaid ofn 'atal y wobr' a dweud wrth awduron gorau - ond nid digon da - cystadleuaeth am fynd yn ôl at eu sgrin a chychwyn eto.

Efallai bod y darllenwyr yn cael y llyfr gorau posib dan y drefn sydd ohoni ond a yw'r rhai sydd yn y pafiliwn yn sylweddoli mai cymeradwyo y maen nhw weithiau gyda'r lleiaf o waith golygu arno yn hytrach na gwir glasur?

A sut gysgod ac amheuaeth mae gwybod hyn yn ei daflu dros yr ymgeiswyr buddugol hynny na fu'n rhaid golygu a gwella eu hymgeision?

Ai angen mawr y Steddfod, felly, yw rhagor o feirniaid fel rhai'r gadair yn Y Bala eleni sy'n ddigon dewr i atal gwobrau?

Fel arall, peryg bod gwawr dyddiau aur golygyddion dewr a beirniaid llwfr ar dorri!

Rhywbeth na fyddai o wir les i na darllenwyr na phrif lenorion, prifeirdd na phrif nofelwyr.

Be dybiwch chi?

Gwrando ar y drafodaeth ar Wythnos Gwilym Owen

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.