Â鶹Éç

Gwilym Owen

29 Medi 2009

Faint o olygu sy'n dderbyniol ar weithiau buddugol yr Eisteddfod genedlaethol cyn eu cyhoeddi?

Dyna un o bynciau trafod Wythnos Gwilym Owen ar Â鶹Éç Radio Cymru ddydd llun Medi 28 2009.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Gyda chadarnhad fod cyfrolau buddugol cystadlaethau fel y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen a hyd yn oed awdlau weithiau'n cael eu golygu, ar adegau, yn eithaf sylweddol cyn eu cyhoeddi mae rhai yn pryderu fod darllenwyr yn cael eu camarwain i gredu fod y gweithiau hyn yn well na'r hyn wobrwyodd beirniaid y gystadleuaeth.

Rhy hir

Cadarnhawyd bod nofel Medal Ryddiaith Eisteddfod Y Bala eleni wedi bod drwy'r felin olygu cyn ei chyhoeddi a datgelwyd ar y rhaglen i ail ran nofel Gwobr Goffa Daniel Owen yng Nghaerdydd y llynedd, Igam Ogam gan Ifan Morgan Jones, gael ei golygu gan olygydd proffesiynol er mwyn ei gwneud yn well ar gyfer y darllenydd.

Cyfiawnhawyd newidiadau o'r fath gan Gwerfyl Pierce Jones, cadeirydd Panel Llên yr Eisteddfod Genedlaethol a phennaeth Cyngor Llyfrau Cymru.

Wrth holi a ddylai cynnyrch buddugol ein prif gystadlaethau llenyddol gael eu golygu o gwbl cyn eu cyhoeddi holodd Gwilym Owen sut oedden nhw'n cael eu gwobrwyo yn y lle cyntaf os oedd angen eu gwella cyn eu cyhoeddi.

Y gorau i ddarllenwyr

Dywedodd Gwefyl Pierce Jones mai mater ydoedd o "geisio cael y cynnych gorau posibl ar gael ar gyfer y darllenydd".

"Dwi'n meddwl fod yn rhaid inni wahaniaethu rhwng y gystadleuaeth a'r cyhoeddi. Ar gyfer y gystadleuaeth mae pob ymgais yn cael ei beirniadu ar yr un gwastad ond mae'r Eisteddfod wedi bod yn awyddus i gyhoeddi y cynnyrch buddugol erbyn y seremoni wobrwyo ers blynyddoedd ac unwaith mae'r gwaith yn cael ei drosglwyddo i gyhoeddwr yna mae'r deipysgrif yn mynd trwy broses . . . ac mae hynny yn golygu elfen o olygu creadigol, golygu copi a phrawf darllen ac yn y blaen . . . a meddwl am anghenion darllenwyr . . . a cheisio meithrin safonau proffesiynol," meddai.

Ychwanegodd: "Beth ydych chi'n gael gan unrhyw awdur ydi drafft - drafft terfynol o safbwynt yr awdur - ond wedyn mae yna bobl broffesiynol yn cymryd drosodd ac edrych ar y deipysgrif yna a'i llywio hi drwy'r wasg ac mae yna ystyriaethau gwahanol yn berthnasol yn fanna sef ystyriaethau pwy sy'n mynd i ddarllen a phrynu y llyfr yna . . . ac mae yna lot o waith technegol i'w wneud ac mae hynny'n cael ei wneud ar bob un llyfr."

Dywedodd fod hon yn broses "gydnabyddedig" gyda phob un llyfr sy'n cael ei gyhoeddi yng Nghymru "ac unrhyw wlad yn y byd".

Angen gofal

Yn un o enillwyr y Fedal Ryddiaith ac yn feirniad eisteddfodol hefyd dywedodd Meg Elis, a oedd hefyd yn rhan o'r drafodaeth, ei bod hi o blaid yr hyn a alwodd yn "gywiro mecanyddol" a chywiro camgymeriadau achoswyd dan bwysau. Cyn cyhoeddi ond yn fwy petrus ynglŷn â golygu creadigol.

"Am y golygu creadigol ar waith buddugol mi fuaswn i'n fwy gofalus," meddai. Ond cytunodd â'r cwtogi a pheth golygu creadigol yn achos nofel Ifan Morgan Jones yng Nghaerdydd lle'r oedd hi'n feirniad.

Haeddu ennill

Safbwynt tebyg oedd un prif lenor a beirniad arall hefyd, Elfyn Pritchard oherwydd na ellid disgwyl "cywirdeb llwyr" mewn unrhyw waith.

"Ond dydw i ddim yn siŵr am dynnu allan swmp o ddeunydd fel y gwnaed y llynedd [efo Igam Ogam] - os oes yna ddiffyg cynildeb a gorddisgrifio a phethau felly," meddai.

"Os oes yna or fanylu a diffyg cynildeb a ydi'r gyfrol yn haeddu ennill beth bynnag. Fyddwn i ddim am newid yn sylfaenol y gyfrol o gwbl neu fydd hi ddim y gyfrol sydd wedi ennill y wobr," meddai.

Awgrym y beirniaid

Yn olygydd a gafodd y profiad o olygu cyfrol fuddugol cyn iddi weld golau dydd dadleuodd Alun Jones o'r Lolfa, fel Gwerfyl Pierce Jones, dros roi blaenoriaeth ar sicrhau y mwynhad mwyaf i'r darllenydd.

Yn achos Igam Ogam yn unol ag awgrym y beirniaid y gweithredwyd wedi iddynt ddweud bod angen tocio yr ail ran er mwyn cael y nofel i symud yn well.

Ychwanegodd mai'r cwestiwn sylfaenol yw, "Pwy sydd bwysicaf; ai'r gystadleuaeth sy'n bwysig neu'r darllenwyr a mwynhad y darllenwyr a dwi'n gryf o blaid y darllenydd," meddai.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.