Gwersi rheoli llygoden - gyda'r meistri!
Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd - bore Sul
Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.
Bron nad awn ar fy llw y dylai fod gan Â鶹Éç Cymru hawlfraint ar y term Dosbarth Meistr (Master Class). Cofiaf fy hen gydweithiwr a chyfaill, Gethyn Stoodley Thomas, cyn belled yn ôl â 1973 yn cynhyrchu cyfres deledu gyda'r teitl Master Class, o bosib ar gyfer Â鶹Éç2, lle'r oedd Geraint Evans yn rhoi cynghorion i gantorion ifainc.
Wn i ddim yn bendant ai fy niweddar gyfaill oedd y cyntaf i daro ar y syniad - os nag e, bu'n gyfrifol am ei boblogeiddio. Erbyn hyn daeth y math o ddysgu lle mae perfformiwr enwog yn hyfforddi disgybl unigol neu ddosbarth bychan o flaen cynulleidfa yn nodwedd boblogaidd o wyliau cerdd, os nad mwyach ar deledu.
Hynny er bod rhai gwybodusion ffroenuchel yn amau eu gwerth gan honni fod tuedd iddynt droi'n gyfle i'r athro berfformio.
Nid felly y Dosbarthiadau Meistr fu'n ddiweddglo dymunol i Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd 2009. Cynhaliwyd nhw ddoe ac yr oedd gwahoddiad i'r cystadleuwyr hynny na ddaethant i lwyfan terfynol yr un o'r ddwy gystadleuaeth gael sesiwn hyfforddiant gan un o'r beirniaid.
Euthum yn chwilfrydig i'r Theatr Newydd i weld a chlywed dau o'r beirniaid, y baswr enwog Kurt Moll a'r soprano o Gymru, y Fonesig Gwyneth Jones, yn rhoi sesiwn hyfforddi i ddau o'r cystadleuwyr aflwyddiannus.
Y peth cyntaf a'm synnodd oedd maint y gynulleidfa, yr oedd y theatr tua thri-chwarter llawn, a'r tâl mynediad yn £8. Peth arall a'm trawodd; o blith y rhai y bûm yn sgwrsio â nhw 'doedd dim un wedi bod yn y cyngherddau na'r datganiadau.
Roedd un gŵr o Aberhonddu a eisteddai wrth fy ymyl newydd ddychwelyd o weld opera yn y Met, Efrog Newydd. Roedd wedi prynu ei docyn ar gyfer y Dosbarthiadau Meistr fisoedd yn ôl ond heb fachu tocynnau ar gyfer y cystadlaethau.
O'm blaen eisteddai Maragret Towers o Bontrhydfendigaid oedd dair blynedd o mlaen i yn Ysgol Tregaron, a chyn-ddisgybl o'r Coleg Cerdd a Drama. Doedd hithau ychwaith ddim wedi mynychu'r un cyngerdd er yn byw yng Nghaerdydd ac er dod yn unswydd i weld y cantorion ifainc yn mynd drwy'u pethau gerbron y meistri.
Nos Iau sgrifennais rywbeth i'r perwyl fod gan Wade Kernot lais bendigedig ar y nodau uwch er heb fod cystal ar y nodau dwfn. Rhaid ei fod ef a Kurt Moll wedi darllen y Blog achos aed ati'n syth i roi gwell trefn ar yr agwedd honno o ganu'r gŵr ifanc o Seland Newydd drwy ganolbwyntio ar Aria Gremin allan o Eugene Onegin gan Tchaikovsky. Aria sy'n mynd lawr a lawr i'r dyfnderoedd.
Aethant dwyddi fesul cymal, y ddau'n gysurus yng nghwmni'i gilydd ac yn cellwair. Gellid teimlo cyfeillgarwch yn tyfu rhwng yr hen ganwr a'r bachgen ifanc. Erbyn diwedd yr awr a hanner, ar fy ngwir, medrwn weld gwahaniaeth amlwg yn ei ganu.
Cymerodd y Fonesig Gwyneth Jones y soprano o Latfia, Dana Bramane, dan ei hadain, a bu prysurdeb mawr yn rhoi sglein ar ei chyflwyniad o Signore, ascolta! allan o Turandot gan Puccini.
Un ffraeth ei thafod yw'r Fonesig Gwyneth a chawsom wybod pethau eraill na wyddwn i ddim byd amdanynt parthed y tafod. "Mae eich tafod fel llygoden fach ddireidus yn eich ceg a rhaid ei reoli," dysgais.
Clywsom bob math o bethau am sut i gynhyrchu llais. Mae gan Dana lais hardd ond roedd y Fonesig o Bontnewynydd yn benderfynol o ddysgu llawer iawn i'w disgybl ifanc o fewn yr awr a hanner.
Rhyfeddwn innau mor gyflym y dysgai'r ferch ifanc: rheoli'r gwefusau, y tafod, a dim pwyso ymlaen rhag amharu ar yr anadlu. "A pheidiwch digalonni," meddai Gwyneth wrthi, "dim ond 25 oed ydych chi a mae digon o amser gennych chi i wella."
Minnau? Edrychaf ymlaen i wneud defnydd o'r hyn a glywais pan ymunaf â'r gynulleidfa i ganu Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd rownd derfynol y brif gystadleuaeth heno.
Noddwyd y Dosbarthiadau Meistr gan Ian Smith of Stornoway Trust.
- Gwefan Canwr y Byd Caerdydd 2009
Ydych chi wedi bod yn dilyn y gystadleuaeth? Beth oeddech chi'n feddwl?