Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Coroni Ekaterina

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:41, Dydd Llun, 15 Mehefin 2009

Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd - bore Llun, Mehefin 15

Bu Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Gwthiodd ryw lefnyn ifanc o Radio 3 feicroffon dan fy nhrwyn yn y Theatr Newydd brynhawn Mawrth a gofyn pwy oedd fy ffefryn i ennill cystadleuaeth Â鶹Éç Canwr y Byd 2009. Nid oeddwn wedi clywed pawb bryd hynny ond mentrais ddarogan y byddai'r soprano fach o Siapan, Eri Nakamura, yn agos i'r brig.

Y pump ddaeth i'r brig. Llun: Brian Tarr

Felly pan ddaeth hi i'r llwyfan, y gyntaf i ganu yn y rownd derfynol neithiwr 'doeddwn i ddim yn ddi-duedd. Roeddwn i am i'r un fach, dwt, dlws, eiddil yr olwg, wneud yn dda.

Ffrwydrodd yn ogoneddus i aria osgeiddig Gounod, Je veus vivre allan o Romeo et Juliette. Yna canodd yr aria Eccomi in lieta vesta allan o I Capuleti e I Montecchi gan Bellini lle gorfodir Giulietta i briodi'r gŵr nad yw'n ei garu a hithau'n dymuno y deuai Romeo i'w hachub.

Yna canodd gân y forwyn Liù allan o Turandot gan Puccini lle mae'r Dywysoges Turandot yn arteithio'r ferch i geisio darganfod enw'r gŵr y bydd yn gorfod ei briodi yn y bore. Mae'r forwyn yn gwrthod ac yn trywanu ei hun ddiwedd y gân.

Gorffennodd ei rhaglen gyda'r gân °ä䳦¾±±ô¾±±ð, yr alaw gyfansoddodd Richard Strauss i'w wraig ddydd cyn eu priodas ar gyfer y a gerdd sgrifennodd Heinrich Hart i'w wraig yntau.

Heb amheuaeth, canodd Eri yn well neithiwr nag ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos. Yr oedd ei pherfformiad yn y brif gystadleuaeth ar y nos Sul gyntaf yn arbennig, ac er iddi ganu yn rownd derfynol y Datganiad, dod i mewn ar y funud olaf wnaeth oherwydd salwch y baswr o Groatia.

Neithiwr cododd i dir uwch a gwelsom hi yn ei helfen gyda'r gerddorfa. Cafodd gymeradwyaeth danbaid y gynulleidfa a chodod y gerddorfa iddi ar y diwedd. Gellid beirniadu ansawdd ei Ffrangeg yn ei chân gyntaf ond dyma berfformiad teilwng o'r brif wobr.

Mae gan Giordano Lucà, y tenor 21 oed o'r Eidal, lais swynol ond y mae tipyn o le i weithio arno. Mae angen colli pwysau arno - roedd Pavarotti yn denau fel styllen pan oedd e'r oed yna - a gweithio'n galed ar ei dechneg. Nid oedd cystal ag yn y rownd flaenorol, diffyg cymeriadu ac emosiwn. Cawsom ddigon o gerddoriaeth hardd ganddo - Donizetti, Verdi a Puccini - ond perfformiodd yn siomedig.

Siomedig, hefyd, oedd Jan Martiník y baswr o'r Weriniaeth Siec, enillydd Gwobr y Datganiad. Canodd arias o waith Dvořák, Rossini, a'r gân enwog Ella giammai m'amò! allan o Don Carlo gan Verdi. Ond ni fu gwelliant yn ei ganu o'r rownd gyntaf a hwyrach i ni ei glywed ar ei orau yn y Datganiad.

Yna daethom at Yuriy Mynenko, yr uwchdenor o'r Wcráin. Mae hwn yn odidog. Neithiwr canodd dair cân a gyfansoddwyd ar gyfer uwchdenor, y gyntaf allan o Idaspe gan Riccardo Broschi, o bosib wedi ei chyfansoddi ganddo ar gyfer ei frawd, Farinelli, y castrata Eidalaidd enwog. Beirniadwyd Mynenko am ganu caneuon a gyfansoddwyd ar gyfer merched yn rownd derfynol gwobr y Datganiad. Cadwodd ei ddeunydd gorau ar gyfer neithiwr.

Yr oedd ei berfformiad o Crude furie degl'orridi abissi allan o Serse gan Handel yn rhyfeddod, y fath gerddor, y fath rediadau sicr a cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹Éç - y llinynnau yn arbennig - yn hyfrydwch pur dan arweiniad Paul Daniel.

Gorffennodd gydag aria allan o Tancredi gan Rossini. Dyma ganwr gyda llyfndra sidanaidd a synnwyr a disgyblaeth cerddorol y gallwn wrando arno drwy'r nos. Roedd yn agos rhyngddo a'r ferch o Siapan. Dyma un arall fu'n ffefryn y dorf.

Yna daeth Ekaterina Shcherbachenko ysblennydd, 32 oed, yr hynaf yn y rownd derfynol ac o bosib yn y gystadleuaeth i gyd. Dim ond un arall a nododd ei fod yn 32, cynrychiolydd Andorra.

Ekaterina

Canodd Je voudrais bien savoir allan o Faust gan Gounod; Signore, ascolta! allan o Turandot gan Puccini; a No word from Tom allan o The Rake's Progress gan Stravinsky.

Bûm yn gwrando brynhawn Sadwrn ar Y Fonesig Gwyneth Jones yn cymoni'r soprano o Latvia yn Signore, ascolta!

Dyma oedd perfformiad a hanner. Da gweld na amharodd cwymp yr hen Undeb Sofietaidd ar y safonau cerddorol. Mae hon eto'n ferch dlos, yn cynhyrchu sain cynnes, hardd, yn cymeriadu'n fendigedig, yn ddramatig, eto'n gynnil. Dyma gantores orffenedig.

Yr unig feirniadaeth bosib oedd ei hynganiad o'r Saesneg yng nghân Stravinsky.

Yn sicr, roedd pethau'n agos iawn - y mwyafrif y bûm yn sgwrsio â nhw o'r farn mai rhwng Mynenko a Sshcherbachenko fyddai hi er bod canmoliaeth fawr i Eri Nakamura o Siapan a gododd i her y noson.

Gwobr y Gynulleidfa
Yn gyntaf cawsom ganlyniad Gwobr y Gynulleidfa, penderfyniad a wnaed drwy bleidlais deleffon yn seiliedig ar y rowndiau blaenorol a sioc fawr oedd iddi fynd i'r Eidalwr Giordano Lucà - ond fel y dywedais roedd y pleidleisio wedi digwydd cyn y noson olaf.

Giordano Lucà

Yna gwnaed y cyhoeddiad terfynol - yr enillydd oedd Ekaterina Sshcherbachenko. Dyfarniad poblogaidd a merch y mae'n fraint i'r gystadleuaeth gael ei hanrhydeddu â'r teitl Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Wrth fy ymyl gydol y nos yr oedd Ann Atkinson, y fezzo-soprano o Gorwen sy'n arweinydd Côr Meibion Froncysyllte - côr byd enwog y dyddiau hyn - a chyfarwyddwraig Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru a gynhelir eleni rhwng Medi 19 a 26. Braf fu sgwrsio gyda hi a chlywed ei barn am y cantorion - a sefyll wrth ei hymyl a'i chlywed yn morio Hen Wlad Fy Nhadau ar ddiwedd y noson ac ar ddiwedd wythnos i'w thrysori - a diolch i'r rhai fynegodd werthfawrogiad o'r blog yn ystod yr wythnos!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:10 ar 15 Mehefin 2009, Alaw Griffiths ysgrifennodd:

    Blog gwych gwerth ei ddarllen, mwynhais pob eiliad yn ei ddarllen. Awdur talentog.
    Alaw.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.