Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Steddfod Washington?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Kate Crockett | 19:22, Dydd Iau, 25 Mehefin 2009

Gair o'r Smithsonian
Kate Crockett yn sgrifennu o Å´yl y Smithsonian, Washington

Tybed ai fel Steddfod Washington y bydd pobl yn cofio am Å´yl y Smithsonian?

Rhan o un o faneri Mary Lloyd Jones

Wrth grwydro o stondin i stondin, taro ar hen ffrindiau a gofyn i bobl, "Chi 'ma am yr wythnos?" yn sicr mae'n hawdd credu ein bod yn y brifwyl.

Ond beth yw'r adeilad yna y tu cefn i ni? O ie, y Capital, lle roedd llygaid y byd ychydig fisoedd yn ôl wrth i Barack Obama gael ei sefydlu'n Arlywydd yr Unol Daleithiau.
'Nôl ar y diwrnod hanesyddol hwnnw ym mis Ionawr, roedd miliwn o bobl yn gwylio'r seremoni islaw'r Capital ar y Mall - stribyn hir o barc sydd wedi'i ddisgrifio fel ystafell ffrynt yr Americanwyr.

Y naill ochr a'r llall i'r Mall, mae cyfres o amgueddfeydd sy'n dod o dan faner y Smithsonian a dyna'r sefydliad sydd yn trefnu'r ŵyl hon i ddathlu diwylliant gwerin.

Ond nid y tu fewn i furiau'r amgueddfeydd mae'r ŵyl - mae'r stondinau ynghanol y Mall ac o ddod allan o orsaf y Metro, yr olygfa gyntaf sy'n wynebu'r ymwelwyr a'r trigolion lleol yw baneri Mary Lloyd Jones yn datgan bod y Cymry yma.

Erbyn diwedd y pythefnos nesaf yma, bydd hyd at filiwn o bobl wedi ymweld â'r fan hon, a bydd nifer ohonyn nhw wedi dysgu ambell frawddeg yn Gymraeg. Yn ogystal â dysgu'r iaith, ar y stondinau mae'n bosib clywed mwy am lenyddiaeth, celf, crefft, bywyd gwledig a diwydiannol Cymru, ymchwilio i hanes teuluol, dysgu sut mae hollti llechi a chodi tŷ unnos.

Mae nifer fawr o gerddorion yma: yn eu plith, Gwyneth Glyn, Siân James a Pharti Cut Lloi, Crasdant, Linda Griffiths, a Gai Toms ac mae 'na gynulleidfaoedd teilwng yn gwrando ar y gwahanol berfformiadau.

Ac ydy'r Americanwyr eisiau dysgu am Gymru? Ydyn, heb os. Mae'r brwdfrydedd a'r chwilfrydedd yn fyw iawn. Ar ddiwedd pob sesiwn mae yna gwestiynau lu i'r perfformwyr, a phobl yn dangos diddordeb gwirioneddol yn ei diwylliant ni.

Gyda'r rhesi o gwestiynau i'w hateb, a'r gwres llethol sydd ar y "maes", mae'n ddiwrnod hir a blinedig i'r cynrychiolwyr Cymreig.

Yn y seremoni agoriadol, dywedodd Wayne Clough, Ysgrifennydd y Smithsonian, a dyn sy'n olrhain ei achau yn ôl i Gymru'r 1630au, bod deall y gwahaniaethau rhwng gwahanol ddiwylliannau yn bwysicach nag erioed.

Gwersi Cymraeg yn Washington DC

Gyda dwy thema arall i'r ŵyl - cerddoriaeth America Ladin a diwylliant llafar pobl ddu'r Unol Daleithiau, mae cyfle i ni fel Cymry gael ein hysbrydoli hefyd gan bobl o wahanol cefndiroedd. Ac efallai, teimlo ychydig yn fwy balch am yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig i'r byd hefyd.

Fe gewch chi glywed mwy am drip y Cymry i'r Smithsonian ar Stiwdio, nos Iau am 1800, ar Fehefin 25 a dydd Iau Gorffennaf 2.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.