Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Arwisgo - posteri gwylio'r gwylwyr!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:24, Dydd Mercher, 24 Mehefin 2009

Bydd yn ddeugain mlynedd ers Arwisgo y Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon y dydd cyntaf o Orffennaf.

Yr oedd y cyfnod a arweiniodd at Orffennaf 1, 1969, yn un cyffrous a digon chwerw yn aml.

Er i'r rhan fwyaf o bobl wirioni gyda'r 'Prins' newydd yr oedd digon a oedd yn wrthwynebus hefyd ac mae digon o bobl a chanddynt fawr i'w ddathlu ar y deugeinfed pen-blwydd - ond digon i'w gofio.

Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio'r posteri Mae'n Drosedd bod yn Gymro ac If you're Welsh you're Watched a gyhoeddwyd ar y pryd.

Cynhyrchwyd y rheini yn sgil yr holl amheuon, sibrydion a hyd yn oed baranoia oedd yna yngly^n â "heddlu cudd" a oedd yn gweithredu o Amwythig dan arweiniad uchel swyddog o'r enw Dixon.

poster.jpg

"Dicsi'r glust," mewn cân boblogaidd ar y pryd gan y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog.

Yn ôl y poster Cymraeg; "Mae unrhyw un sy'n beiddio dangos ei fod yn Gymro, yn awr mewn perygl cael ei gipio gan heddlu cudd Dixon, o Amwythig. A'r trosedd? Digon hawdd ffeindio un."

Ac yn y Saesneg: "Dixon's secret police, based in Shrewsbury, are now watching, filing, following all Welsh persons suspected of holding patriotic views. When they want to, they make arrests; and sometimes even frame the charges."

Y posteri, gyda llaw, yn costio chwe cheiniog yr un gyda phedair ceiniog o gludiant am 15 a mwy o Wasg Y Lolfa yn Nhalybont, Ceredigion!

Tybed faint ohonyn nhw sydd ar ôl? Oes gennych chi un?
Beth yw eich atgopfion chi o gyfnod yr arwisgo?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.