Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen ffrae nad oes diwedd arni

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:32, Dydd Llun, 27 Ebrill 2009

Nid cynt bod Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn wedi ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf nad oedd y gystadleuaeth dan yr ordd unwaith eto.

Ac un o'r rhai a gordd yn ei law oedd y Prifardd Alan Llwyd - awdur a phennaeth Barddas, un o dai cyhoeddi mwyaf adnabyddus Cymru.

"Dydi'r peth ddim yn gweithio," meddai ar y rhaglen Sioe Gelf ar S4C noson cyhoeddi'r Rhestr Hir.

Ac am ba bynnag lyfr fydd yn ennill dywedodd; "Dydi o ddim o ddifrif yn Llyfr y Flwyddyn - all o ddim bod."

Rhestr Hir 2009

Yr oedd yn ymddangos mai ei brif wrthwynebiad yw'r holl fathau o lyfrau anghymharus y mae'n rhaid i'r beirniaid eu cymharu cyn dod i benderfyniad.

"Sut y gallwch chi ddewis Llyfr y Flwyddyn allan o gategorïau sydd mor wahanol?" holodd gan adleisio dadl sy'n cael ei chodi flwyddyn ar ôl blwyddyn ers dechrau'r gystadleuaeth.

A dadl, yn wir, a fynegwyd gan gadeirydd y panel a ddewisodd y Rhestr Hir Saesneg 2009 noson datgelu'r enwau.

"Mae gennych farddoniaeth, mae gennych chi nofelau, mae gennych chi lyfrau ysgafn hyd yn oed - mae gennych chi bob math o lyfrau. Dydi'r peth ddim yn gweithio," meddai Alan Llwyd ar S4C gan ychwanegu nad yw'r llyfrau gorau bob tro yn cael y sylw mawr y mae'r Academi yn ei roi i'r rhai sydd ar y rhestr.

Awgrymodd ef mai'r unig ffordd i ddatrys yr anhawster fyddai creu panel sefydlog sydd wedi hen brofi ei hun a llunio categorïau gwahanol.

"Ac wedyn, o leiaf byddai'r peth yn deg," meddai.

Yr oedd 18 o ddarllenwyr Barddas wedi dewis yn barod eu Rhestr Hir hwy a bach yw'r tebygrwydd rhwng honno â'r rhestr swyddogol.

Ond yn ôl llefarydd ar ran yr Academi ar y Sioe Gelf mae'r Academi trwy bennu "panel cytbwys o dri beirniad" yn sicrhau tegwch.

Na, dydi hon ddim yn ddadl sy'n mynd i ddiflannu ac fe allwch fentro y bydd yn cael ei hailgodi yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

A'r flwyddyn ar ôl honno hefyd, beryg!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.