Â鶹Éç

Adroddiad Blynyddol y Â鶹Éç: ‘Blwyddyn dda’ i Â鶹Éç Cymru Wales ond rhagor i’w wneud yn 2013/14

Date: 16.07.2013     Last updated: 23.09.2014 at 09.50

Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y Â鶹Éç am 2012/13, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos perfformiad cryf gan Â鶹Éç Cymru Wales, yng Nghymru ac ar draws sianeli rhwydwaith y Â鶹Éç, er bod Cyngor Cynulleidfa Cymru yn parhau’n bryderus am lefelau derbyniad DAB ac FM a’r angen am ragor o raglenni wedi’u gwneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Roedd allbwn Â鶹Éç Wales ar Â鶹Éç One Wales a Â鶹Éç Two Wales yn parhau i gyrraedd bron i filiwn o wylwyr, ac roedd 2.7miliwn o bobl yr wythnos yn ymweld â thudalennau Cymru y wefan. Eleni roedd Â鶹Éç One Wales ar gaelÌý ar Ddiffiniad Uchel am y tro cyntaf. Ìý

Gwnaeth y stiwdios ym Mhorth y Rhâth gyfraniad mawr eto i ddrama rhwydwaith y Â鶹Éç. Ochr yn ochr â’r hen ffefrynnau Doctor Who a Casualty, cynhyrchwyd nifer o raglenni newydd yno, yn cynnwys cyfres antur Wizards vs Aliens ar gyfer CÂ鶹Éç.Ìý Ac ym mis Medi, ennillodd y rhaglen newyddion dyddiol Newyddion wobr BAFTA Cymru am ei ddarllediadau o ddigwyddiadau coffa 9/11 yn Efrog Newydd yn 2011.

Tra bod derbyniad DAB i Radio Wales a Radio Cymru wedi cynyddu o 25 y cant gyda lansio trosglwyddyddion newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, gyda 80,000 o wrandawyr newydd yn gwrando ar Radio Wales FM, mae gan gynulleidfaoedd a Chyngor Cynulleidfaoedd Cymru yr Ymddiriedolaeth (sy’n cynghori’r Ymddiriedolaeth ar berfformiad y Â鶹Éç o ran cyflawni pwrpasau cyhoeddus y Â鶹Éç) bryderon difrifol o hyd am ddiffyg derbyniad DAB yng Nghymru yn gyffredinol.Ìý

I gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith, aeth y bartneriaeth rhwng y Â鶹Éç ac S4C o nerth i nerth gyda gweithrediad y Cytundeb Gweithredu newydd rhwng Ymddiriedolaeth y Â鶹Éç ac Awdurdod S4C. Mae’r cytundeb hwn yn diogelu annibyniaeth golygyddol, rheolaethol a gweithredol S4C tra’n darparu atebolrwydd i’r Ymddiriedolaeth am gyllido’r gwasanaeth. O fis Ebrill eleni tan 2017, daw mwyafrif incwm cyhoeddus S4C o ffi’r drwydded.

Wynebodd Radio Cymru gyfnod heriol yn ystod yr anghydfod, sydd eto i’w ddatrys, ynghylch hawliau darlledu masnachol rhwng y Â鶹Éç a’r gymdeithas gasglu Gymraeg, Eos. Mae ymdrechion i ddatrys yr anghydfod yn parhau ac fe fydd yr Ymddiriedolaeth a Chyngor Cynulleidfa Cymru yn monitro cynnydd yn agos.Ìý

Dywedodd Ymddiriedolwr y Â鶹Éç dros Gymru, Elan Closs Stephens:

"Mae Â鶹Éç Cymru Wales wedi cael blwyddyn dda, er gwaethaf amser caled iawn i’r Â鶹Éç yr hydref diwethaf. Fe wnaethom rannu cynnwrf a drama’r Gemau Olympaidd gyda gweddill y wlad, a nodi rhai llwyddiannau ein hunain: partneriaeth newydd gydag S4C, cryfder parhaus mewn drama a gynhyrchwyd ar gyfer y DU gyfan, fersiwn Diffiniad Uchel o Â鶹Éç One i Gymru, yn ogystal â chynnydd mawr ei angen mewn derbyniad DAB i’r ddwy orsaf radio genedlaethol.

"Ond, gall Â鶹Éç Cymru Wales fynd hyd yn oed ymhellach ac fel y mae ein Cynghorau Cynulleidfa wedi ei amlygu, mae angen gweithio ar rai meysydd allweddol eleni. Mae rhagleni’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru yn bwysig i gynulleidfaoedd ac felly roedd hi’n fater o bryder na chafodd yr un drama yn yr iaith Saesneg ei gwneud yng Nghymru eleni ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru. Ac er bod cynnydd wedi’i wneud ar DAB, mae cryn dipyn o waith eto i’w wneud. Mae’n galonogol bod gwaith eisoes ar y gweill gan Â鶹Éç Cymru Wales a’r Â鶹Éç yn ehangach i fynd i’r afael â nifer o’r materion hyn, ac fe fydd yr Ymddiriedolaeth a’r Cyngor Cynulleidfa yn parhau i fonitro cynnydd."

Cododd canran gwariant teledu rhwydwaith yng Nghymru o 5.3 y cant yn 2012 i 6.8 y cant, yn bennaf oherwydd rhaglenni drama a rhaglenni ffeithiol.Ìý

Canmolodd aelodau’r Cyngor Cynulleidfa y Â鶹Éç am gynnal y cyrhaeddiad wythnosol ar 89 y cant – yn uwch na lefel y DU gyfan.

Roedd hefyd yn cydnabod y gwelliannau a wnaethpwyd gan Â鶹Éç News o ran nodi perthnasedd straeon i wahanol genhedloedd y DU ond mae’n dal i deimlo bod gwaith i’w wneud i wella’r adrodd am wahaniaethau mewn polisïau cyhoeddus ar draws y pedair cenedl.Ìý

Nodiadau i Olygyddion

Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y Â鶹Éç am 2012/13 ar gael yn: Â鶹Éç Annual Report

Mae Adolygiad Cyngor Cynulleidfa Cymru ar gael yn:ÌýArolwg Blynyddol