Diweddarwyd: 31 Awst 2022
Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair
Cofiwch, mae angen i’ch cyfrinair gynnwys:
- Wyth neu ragor o nodau cyfrifiaduro
- O leiaf un llythyren
- O leiaf un rhif neu symbol.
Pan rydych chi’n dewis cyfrinair, byddwn ni’n eich hysbysu os ydy e wedi bod yn ran o dor-data ar y rhyngrwyd – hynny yw, os ydy e ar restr mae hacwyr yn gallu gweld. Mae dewis cyfrinair wahanol yn helpu cadw eich cyfrif yn ddiogel. Mae eich cyfrinair yn aros yn gudd felly does neb yn ei weld yn ystod y broses.
Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair. Dyma sut i wneud:
- Ewch i’r dudalen
- Pan ddaw'r cais, rhowch yr e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru gyda'r Â鶹Éç. (Os gwnaethoch chi gofrestru â chyfeiriad e-bost ffug, ni fyddwch chi’n gallu newid eich cyfrinair, felly bydd rhaid i chi gofrestru am gyfrif newydd.)
- Byddwn yn anfon neges e-bost atoch wedyn gyda dolen i ailosod eich cyfrinair. Falle bydd rhaid i chi edrych yn eich ffolder sothach neu sbam (os nad yw yr ebost yn cyrraedd, dilynwch y camau uchod eto).
- Pan fyddwch yn cael y neges e-bost honno, cliciwch ar y ddolen a byddwch yn mynd i dudalen lle gallwch greu cyfrinair newydd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio'ch cyfrinair newydd ar gyfer y tro nesaf, ond peidiwch â'i ysgrifennu yn unrhyw le rhag ofn i rywun ddod o hyd iddo.
Dan 13 oed?
Ymddiheuriadau, ond ni allwch ailosod eich cyfrinair os ydych chi wedi ei anghofio. Yn hytrach, bydd angen i chi .
Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfeiriad e-bost
Dyma rai pethau i’w gwirio:
- Gwiriwch fod y fformat yn gywir, heb fylchau na gwallau teipio.
- Ydych chi'n rhoi’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch i gofrestru gyda'r Â鶹Éç? Os na, bydd angen i chi .
- Wnaethoch chi gofrestru pan oeddech chi dan 13 oed? Os felly, efallai eich bod chi wedi cofrestru gydag enw defnyddiwr, nid cyfeiriad e-bost. Ceisiwch fewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr.
Os nad ydych chi wedi defnyddio eich cyfrif yn y flwyddyn ddiwethaf, efallai ein bod ni wedi ei nodi fel un nad yw'n cael ei ddefnyddio neu hyd yn oed wedi ei ddileu, yn unol â'n polisi preifatrwydd. Ewch i'ch mewnflwch i weld os ydyn ni wedi anfon e-byst ynglŷn â hyn yn ddiweddar.
Cael trafferth dilysu eich e-bost?
Gallwch gael help i ddilysu eich e-bost yma.
Rydw i'n cael trafferth gyda fy enw defnyddiwr
Mae enwau defnyddiwr yn cael eu defnyddio yn lle ebost ar gyfer pobl sy’n iau na 13.
Dyma rai pethau i’w gwirio:
1. Gwiriwch fod y fformat yn gywir, heb fylchau na gwallau teipio.
2. Ceisiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost yn lle. Maen rhaid i unrhyw un sy’n 13 neu hŷn fewngofnodi gyda’i gyfeiriad e-bost, ac nid enw defnyddiwr. Os yw hynny'n gweithio, cofiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost pryd bynnag y byddwch chi'n mewngofnodi o hyn ymlaen.
3. Ydych chi'n siŵr eich bod chi'n rhoi’r enw defnyddiwr a ddefnyddioch i gofrestru gyda'r Â鶹Éç? Os na, bydd angen i chi .
Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.