(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)

Mae Ben Cajee yn ymuno ag Azim Ameer, chwaraewr pêl-droed dall Lloegr, wrth iddo rannu ei sgiliau pêl-droed dall.

Mae’r dosbarth yn mwynhau dysgu sgiliau pêl-droed dall sy’n cael eu dangos gan Azim yn y gweithgareddau hwyliog hyn.

Sgiliau

Mae’r sgiliau a gafodd eu dysgu yn y gweithgareddau yn cynnwys: ymarfer sgiliau gwrando, cyfathrebu, gwaith tîm a dysgu rhywfaint o reolaeth syml wrth wisgo’r mwgwd.

Gweithgareddau

Gweiddi’n Uchel
Mae gwrando yn sgil bwysig iawn mewn pêl-droed dall. Mae’r plant yn dod i arfer â gwrando am sŵn y bêl yn y gweithgaredd hwn.

Amser Ymddiried
Mae’r disgyblion yn arwain eu cyd-ddisgyblion er mwyn iddynt ddod i arfer â symud wrth wisgo mwgwd.

Traed Pengwin
Bydd y disgyblion yn ymarfer gwrando a chicio pêl.

Amser Teithio
Bydd y disgyblion yn ymarfer driblo a symud gyda’r bêl.

Cerdyn gweithgaredd

Lawrlwythwch y cerdyn gweithgaredd ar gyfer pêl-droed dall 8-11

Cerdyn gweithgaredd: pêl-droed dall 8-11