Â鶹Éç Cymru

3 Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT

Caniateir i chi fynd â bag maint A4 neu lai i'r lleoliad. Caniateir un bag i bob person. Mae bagiau bach yn golygu rhai nad ydynt yn fwy na maint A4 neu fagiau llaw safonol. NI chaniateir bagiau cefn, casys teithio, bagiau gliniadur a bagiau cario mawr y tu mewn i'r lleoliad.

Directions to Â鶹Éç Cymru

Ble ydym ni


°Õ°ùê²Ô
Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog ar ein stepen drws. Mae gwybodaeth am orsaf drenau Caerdydd Canolog ar gael ar wefan .

Bws
Oherwydd ei fod mewn lleoliad canolog, mae nifer o lwybrau bysiau yn mynd heibio i Â鶹Éç Cymru Wales.

Mae rhagor o wybodaeth am y llwybrau hyn a’r safleoedd bws agosaf ar gael ar wefan
.

µþ±ð¾±³¦¾±´ÇÌý
Mae raciau beiciau a gorsafoedd docio NextBike ar y Sgwâr Canolog ac o’i gwmpas, ac wrth ymyl ein prif fynedfa. Mae rhagor o wybodaeth i’ch helpu i gynllunio eich taith ar gael ar wefan .


°ä²¹°ùÌý
Mae tri safle Parcio a Theithio yng Nghaerdydd. Mae’r manylion ar gael ar wefan . Fel arall, defnyddiwch feysydd parcio yng nghanol y ddinas neu barcio a thalu ar y stryd. Oherwydd ei fod mewn lleoliad prysur yng nghanol y ddinas, does dim man gollwng teithwyr yn y Sgwâr Canolog.

Mae gwybodaeth ynglŷn â theithio i Gaerdydd pan fod digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn y brifddinas ar gael .

Parcio gyda bathodyn glas 
Mae nifer cyfyngedig o fannau parcio wedi’u neilltuo i ddeiliaid bathodyn glas yn y Sgwâr Canolog. Mae’r rhain ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw pan fyddwch yn prynu eich tocyn. Mae cyfyngiad uchder o 2.4m ym maes parcio’r Sgwâr Canolog. Fel arall, mae mannau parcio i bob anabl ar gael yn Arglawdd Fitzhamon, Arglawdd Taffs Mead, Plas y Neuadd oddi ar Heol y Porth, a Heol y Cawl.

Bysiau Moethus
Does dim lle i fysiau moethus barcio yn y Sgwâr Canolog. Mae mannau gollwng/codi yn Arglawdd Fitzhamon ac yn Arglawdd Taffs Mead, sydd 3 munud i ffwrdd ar droed. Mae maes parcio oddi ar y ffordd gyda Theledu Cylch Cyfyng 24 awr ar gael i fysiau moethus yng Ngerddi Soffia, sy’n agos at ganol y ddinas. Mae’r manylion ar gael ar wefan .

Central Square, Cardiff

±á²â²µ²â°ù³¦³ó±ð»å»åÌý

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosib, a dyma pam mae'r Sgwâr Canolog yn adeilad niwroamrywiol sy’n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae dolen sain wedi’i gosod yn y dderbynfa.