Sut fedra i wrando ar bodlediadau ar fy mheiriant chwarae ffeiliau mp3?
Mae pob peiriant chwarae ffeiliau mp3 yn wahanol ond yn y bon mae'n fater o blwgio'r chwaraewr i mewn i'r cyfrifiadur (fel arfer trwy gyfrwng gwifren USB) ac fe ddylai ymddangos fel dyfais allanol y medrwch lusgo a gollwng y podlediad i mewn iddo. Yn amlwg, yn gyntaf bydd angen i chi ddod o hyd i'r podlediad at eich cyfrifiadur, ac mae'r ffordd o wneud hynny yn dibynnu ar y meddalwedd podledu sydd gennych.
Mae hon yn broses sy'n cymryd amser, ac, yn ffodus, mae rhai chwaraewyr mp3 yn caniatáu i chi gyd-lynu'r feddalwedd gyda'r deunydd ar y chwaraewr. Ystyr hyn yw bod y meddalwedd yn diweddaru'r chwaraewr â'r ychwanegiadau diweddaraf i'ch casgliad bob tro y byddwch yn ei gysylltu â'r cyfrifiadur.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.