A oes modd gwella safon y sain yn y podlediad?
Ar hyn o bryd mae safon y sain yn ein ffeiliau mp3 yn cyd-ymffurfio â safonau'r Â鶹Éç sef 64Kbps (mono) ar gyfer podlediadau llafar a 128Kbps (stereo) ar gyfer cerddoriaeth (gweler y cysylltiadau perthnasol am ragor o wybodaeth ynghylch cyfraddau bit a ffeiliau mp3). Rydym o'r farn fod hyn yn fwy na digon, a, gan y byddai safon uwch o sain ar y we yn ddrud, rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng safon y sain a chostau. Mae Podlediadau a lawrlwythiadau mp3 yn hynod boblogaidd felly rywydym o'r farn ein bod wedi taro ar y man canol cywir.
Mae'r Â鶹Éç yn monitro ac adolygu'r safonau sain yn barhaus er mwyn sicrhau'r gwasanaeth gorau posib a gwerth am arian i dalwyr ffi'r drwydded.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.