Â鶹Éç

Acid Casuals

Acid Casuals
Sesiwn C2 Acid Casuals, 2004


Mae'n bleser gan C2 gyflwyno'r - prosiect dawns o Gaerdydd - fel artistiaid sesiwn yr wythnos. Yng nghanol eu amserlen prysur a rhwng neidio o un awyren i'r llall mae'r Casuals wedi bod yn y stiwdio i recordio sesiwn yn arbennig i C2 - a nos Fercher, Ionawr 28, wnaeth Huw Stephens ddarlledu 3 trac newydd sbon.

Mae ychydig o ddirgelwch ynglyn â'r Acid Casuals - mae nhw'n dod o Gaerdydd, mae'n nhw'n cynllunio dillad sy'n cael eu gwisgo gan sêr fel Rhys Ifans a'r Super Furries a mae nhw'n gwneud gwaith celf sy'n cael ei arddangos a amgylch y byd. Ond ar y gerddoriaeth mae C2 yn canolbwyntio a mae nhw'n barod wedi creu enw iddyn nhw'u hunain yn y sîn ddawns rhyngwladol.

I glywed y 3 trac newydd ac ecscliwsif i C2 - 'Meikal Bach', 'Pobol Sir Fon' a 'Pen Piws' - cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen. Gewch chi ddim eich siomi! Am fwy o fanylion, ewch i gael golwg ar wefan ddiddorol y grwp: .

I ddod yn 2004 bydd C2 yn darlledu sesiynau gan Quidest, Fenks, Bob George, Gilespi, Winabago, Bechdan Jam, Bydd y Byddariaid yn Clywed, Mehefin yr Gyntaf a llawer mwy. Os ydach chi mewn grwp ac yn awyddus i recordio sesiwn i C2, anfonwch dâp/CD demo at:

    C2
    Radio Cymru
    Ystafell 2001
    Â鶹Éç Cymru
    Llandaf
    Caerdydd CF5 2YQ

neu ebostiwch c2@bbc.co.uk i gael mwy o wybodaeth.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.