Mae Yucatan yn griw gwych sydd yn cael eu arwain gan Dilwyn Llwyd, gynt o Bob George. Yr aelodau ydy: Dilwyn ar prif lais a gitar, Gethin Evans a Carwyn Jones o'r Genod Droog ar y dryms a'r bass, Osian Howells o'r Ods ar y gitar, a Rhys Aneurin ar yr allweddellau.
Mae'n nhw newydd orffen taith oedd yn cael ei threfnu gan Dead Young Records, ac mae gan y band gân ar vinyl 10" aml-gyfrannog y label. Mae'r sesiwn yn gyfuniad o fersiwn newydd o Dim Ond Cysgodion gan Meic Stevens, can newydd sbon, a chan oddiar yr album Yucatan.
Recordiwyd yn stiwdios C2 yn Bryn Meirion, Bangor gan Dylan Hughes
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.