Mae MC Mabon ar daith ar hyn o bryd, a rhwng gigio yn TÅ· Newydd, Sarn a'r Legion, Llanrwst, fe ddaeth i fewn i Bryn Meirion, Bangor i recordio sesiwn ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym.
Mae Gruff Meredith yn enwog am ei sesiynau gwych - ac wedi rhyddhau CD cyfan o "Seshiwns Radio", ac mi oedd y sesiwn yma hefyd yn arbennig. Gruff ei hun sydd ar gitâr a phrif lais, Huw "Mr Huw" ar y bass a llais cefndir, Ed Zabrinski ar yr allweddellau, Gethin gynt o'r Poppies ar y dryms, ac Alex o Cymbient ar y gitâr.
Darlledwyd y sesiwn ar raglen Lisa Gwilym ar C2 ar 18 Ebrill 2008.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.