Gwrandewch ar atebion Rich i holiadur C2
Matt, Rich, Rod a Gaz - neu MAX N ydy bach-band ('boy-band') diweddaraf a mwyaf cyffrous Cymru! Ers dod at ei gilydd ar y gyfres Pam Fi Duw? ar S4C mae'r band wedi esblygu a newid dros y blynyddoedd - PFD oedd yr enw cyntaf, wedyn Storm a rwan MAX N, a mae'r grwp ar fin mynd ar daith fawr gyda neb llai na Blazin' Squad.
Pleser oedd croesawu Rich o'r grwp fel gwestai arbennig Daf Du ar C2 nos Iau, Mawrth 18. Rich ydy aelod hynaf y grwp (dim ond yn 21 oed!) ac yn cael ei ddisgrifio fel yr un "trefnus ac aeddfed. Un sydd yn cymeryd llawer o ddiddordeb yn ei ddillad a'i ymddangosiad yn gyffredinol!"
Ond mae Rich hefyd yn gerddorol iawn - yn chwarae'r piano clasurol ac yn cyfansoddi i'r grwp, ac yn rhestru Bon Jovi, Westlife, Bryan Adams, Pink a'r Backstreet Boys fel ei ddylanwadau. Fe ddechreuodd ei yrfa cerddorol gyda'r grwp Dim Esgus o Rydaman a recordiodd sesiwn i Radio Cymru blynyddoedd yn ôl.
Am holl newyddion, gigs a lluniau MAX N, ewch i'w gwefan: . Dyma'r caneuon ddewis Rich i'w darlledu ar C2, Radio Cymru:
Cân o Blentyndod: Dim Esgus - Llifo
Cân Carioci: Frank Sinatra - New York, New York
Cân Torri Calon: Eric Clapton - Tears in Heaven
Cân yn y Car: Mike Peters - Cyfiawnder Cyfiawn
Cân nos Wener: Edward H. Dafis - Ty Haf
Cân Snog Gyntaf: Boyzone - No Matter What
Cân Creu Argraff ar Ferch: Lamar - What About Love
Cân Gyntaf mewn Parti: Eden - Cer Nawr
Cas Gân: Sobin a'r Smaeliaid - Curo ar y Drws
Albym Gorau: Def Leopard - Volt
Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.