Iwcs a Doyle nôl yn 1996
Gwrandewch ar atebion Iwcs i'r holiadur
Gwestai arbennig Daf Du ar Ionawr 29ain oedd yr actor a'r canwr Iwan 'Iwcs' Roberts. Yn arfer bod yn un hanner o'r ddeuawd enwog 'Iwcs a Doyle', erbyn hyn mae o'n dilyn gyrfa actio - mae o i'w weld ar y gyfres Xtra ar S4C bob wythnos a mi fydd yn ymddangos yn y gyfres ddrama Talcen Caled yn hwyrach eleni.
Dyma'r caneuon ddewisodd Iwcs:
Cân o Blentyndod: Queen - Bohemian Rhapsody
Cân Carioci: Huw Chiswell - Y Cwm
Cân Torri Calon: Jim Diamond - I Should Have Known Better
Cân yn y Car: Steve Eaves - 50 milltir wedi Hanner Nos
Cân nos Wener: Thin Lizzy - Boys are Back in Town
Cân Snog Gyntaf: Hogia'r Wyddfa - Safwn yn y Bwlch
Cân Creu Argraff ar Ferch: Dire Straits - Romeo and Juliet
Cân Gyntaf mewn Parti: Unrhywbeth gan UB40
Albym Gorau: Pink Floyd - Dark Side of the Moon
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.