Gwrandewch ar atebion Ian i holiadur C2
Yn gyn-aelod o'r grwp dawns Diffiniad, ac erbyn hyn yn cyflwyno'r rhaglen Popcorn gyda Bethan Elfyn ar S4C, wythnos yma mae Ian Cottrell wedi cael y pleser o edrych yn ôl ar y ddegawd nath anwybyddu ffasiwn a chwaeth - yr 80au!
Drwy'r wythnos mae Ian wedi bod yn cyflwyno slotiau byr 8 munud o'r 80au ar S4C yn edrych yn ôl ar y cyfnod - y ffasiwn, y gerddoriaeth a'r rhaglenni teledu. Poenus medde chi? Wel, dim i'r dyn yma - mae Ian yn ystyried yr 80au fel degawd anhygoel (sy'n esbonio lot am be mae'n gwisgo - joc bach!), felly fe neidiodd ar y cyfle i ddewis ei hoff draciau o'r cyfnod ar C2, Radio Cymru gyda Daf Du.
Dyma'r caneuon ddewisiodd Ian:
Cân o Blentyndod: Geraint Jarman - Merch Ty Cyngor
Cân Carioci: New Order - True Faith
Cân Torri Calon: Stevie Wonder - Lately
Cân yn y Car: Pet Shop Boys - Suburbia
Cân nos Wener: Endaf Emlyn - Dawnsionara
Cân Snog Gyntaf: Bando - Nos yng Nghaer Arianrhod
Cân Creu Argraff ar Ferch: Tynal Tywyll - Duw Rhuw
Cân Gyntaf mewn Parti: Van Halen - Jump
Cas Gân: Unrhyw beth gan Sobin a'r Smaeliaid
Albym Gorau: Michael Jackson - Thriller
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.