Gwrandewch ar atebion Huw i holiadur C2
Fel canwr y grwp unigryw Mwsog, gafodd ei ffurfio yn Ysgol Glan Clwyd, y daeth Huw Evans i sylw'r cyhoedd yn gyntaf. Yn grwp diddorol ac arbrofol, nath Mwsog greu argraff fawr gyda sesiwn i raglen Gang Bangor, Radio Cymru tua 3 blynedd yn ôl, ond ers hynny wedi bod braidd yn dawel. 'Falle bod y ffaith bod unrhyw un yn cofio pwy ydy Mwsog yn destament i'w talent!
Gyda llais fel Chris Martin a phresenoldeb llwyfan fel Robbie Williams, mae Huw Evans yn sicr yn hoelio'r sylw fel prif leisydd a 'falle mae dyna sut laniodd Huw swydd fel cyflwynydd y cyfresi i dot dot a Bandit ar S4C digidol. Y newyddion da ydy bod Mwsog o'r diwedd wedi bod nôl i'r stiwdio i recordio caneuon newydd gwych - felly gwyliwch y gofod!
Mae Huw hefyd yn cael ei weld yn chwarae rhan 'Skid' o'r gyfres Xtra ar S4C. Felly beth sy'n gwneud i Huw dicio? Wel, roedd e wrth ei fodd yn rhoi ychydig o addysg cerddorol i Daf Du gyda'i ddewis o gerddoriaeth Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg, a dyma'r caneuon ddewisiodd i chwarae:
Cân o Blentyndod: Hanner Pei - Y Bydumdum
Cân Carioci: Y Cyrff - Pethau Achlysurol
Cân Torri Calon: Jeff Buckley - Lover you Should Have Come Over
Cân yn y Car: Squarepusher - Square window
Cân nos Wener: Ty - Ha Ha
Cân Snog Gyntaf: Texas Radio Band - Rhan o Ni
Cân Creu Argraff ar Ferch: Serge Gainsbourg - Histoire de Melody Nelson
Cân Gyntaf mewn Parti: DJ Shadow - Organ Donor
Cas Gân: Meinir Gwilym - Cymru/USA
Albym Gorau: Jeff Buckley - Grace
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.