Gwrandewch ar atebion Hefin Rees i holiadur C2
Gwestai Daf Du wythnos yma oedd un o styds ifanc y sgrîn fach - Hefin Rees - sy'n actio yn y gyfres Rownd a Rownd ar S4C. Yn dod o Abertawe, daeth Hefin yn enwog tra'n ddisgybl ysgol yn chwarae rhan Rhys yn y gyfres Pam Fi Duw?
Yn fuan wedyn aeth e i'r 'col ger y lli' yn Aberystwyth i astudio ffilm a theledu, ac ar ôl gadael y coleg fe arhosodd yn Aberystwyth i redeg ty tafarn, cyn ail ddarganfod ei dalentau thespiaidd yn ddiweddar a chael rhan yn y gyfres Rownd a Rownd!
Mae o hefyd yn ffan mawr o gerddoriaeth Cymraeg a Saesneg, a dyma'r caneuon ddewisodd Hefin ar C2:
Cân o Blentyndod: Sobin a'r Smaeliaid - Dwi'm yn Licio
Cân Carioci: The Black Crows - Hard To Handle
Cân Torri Calon: Mim Twm Llai - Does na Neb
Cân yn y Car: Kentucky AFC - 11
Cân nos Wener: The Doves - Pounding
Cân Snog Gyntaf: Edward H. Dafis - Ysbryd y Nos
Cân Creu Argraff ar Ferch: Jakokoyak - Murmur
Cân Gyntaf mewn Parti: Primal Scream - Loaded
Cas Gân: Unrhyw gân o Pop Idol, Pop Stars The Rivals neu Fame Academi
Albym Gorau: Kings Of Leon - Youth and Young Manhood
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.