Gwrandewch ar atebion Gethin i holiadur C2
Enw: Gethin Jones
Oed: 26
Dod o ble: Caerdydd
Byw yn lle: Yn y car rhwng Caerdydd a Chaernarfon!
Enwog am be: Ma Gethin yn cyflwyno ar Uned 5 a Popty ar S4C. Roedd Gethin hefyd yn cyflwyno ar raglenni S4C o Eisteddfod Yr Urdd, Ynys Môn eleni.
Wyddoch chi: Nath y cylchgrawn Company ddewis Gethin fel Bachelor of The Year llynedd! Un ffaith bach arall - bu bron i Gethin ddilyn gyrfa fel chwaraewr rygbi proffesiynol cyn penderfynu bod e ddim yn talu digon a troi'n gyflwynydd teledu!
Dyma ddewisiadau cerddorol Gethin:
Cân o Blentyndod: Shakin Stevens - Lipstick, Powder and Paint
Cân Carioci: Tom Jones - Green Green Grass of Home
Cân Torri Calon: TNT - Pam?
Cân yn y car: Robbie Williams, Something Beautiful
Cân nos Wener: Overtones - Cariad sy'n Cilio (Ma Gethin fel arfer yn teithio nos Wener!)
Cân snog gynta' (gyda'i gariad presennol!): Nelly a Kelly Rowland - Dilemma
Cân creu argraff ar ferch: Max-N - Corff ar Dân
Cân Gyntaf mewn Parti: S Club 7 - Dont Stop Movin'
Cas Gân: Blue - Breathe Easy
Albym Gorau: Elin Fflur - Dim Gair
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.