Gwrandewch ar atebion Elin Fflur i holiadur C2
Un o artistiaid mwya' poblogaidd Cymru - Elin Fflur - oedd gwestai arbennig Daf Du ar Chwefror 26. Ers rhyddhau ei halbym ddiweddara 'Dim Gair' mae enw Elin ar wefusau miloedd o ffans cerddoriaeth yng Nghymru, a dyw pethe ddim yn debygol o newid.
Fe ddechreuodd ei gyrfa yn canu a chwarae'r gitar fas i'r grwp Carlotta gyda'i brawd Ioan, ac yn fuan wedyn aeth hi ymlaen i ganu cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru ('Harbwr Diogel'). Dyma ddechrau cyfnod llwyddianus yn canu gyda'r Moniars cyn iddi lansio gyrfa unigol gyda'r albym 'Dim Gair' daeth allan llynedd.
Ynghyd â Meinir Gwilym, Elin Fflur ydy un o'r artistiaid mwya' llwyddianus erioed yn - yn aros yn Rhif 1 am 11 wythnos gyda'r Moniars ac am 6 wythnos fel artist unigol ar ôl iddi ryddhau 'Dim Gair'. Ar hyn o bryd mae gan Elin gynlluniau cyffrous gan gynnwys recordio fersiwn Saesneg o'r albym 'Dim Gair' ('Speechless').
Mae hi hefyd yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun, a roedd ei chân 'Llwybr Lawr i'r Dyffryn' yn agos iawn i gipio cystadleuaeth Cân i Gymru llynedd. Fydd neb yn synnu, felly, o wybod bod gan Elin ddewis arbennig mewn cerddoriaeth - dyma'r caneuon ddewisodd hi ar C2:
Cân o Blentyndod: Mojo - Dipyn Bach mwy Bob Dydd
Cân Carioci: No Doubt - Don't Speak
Cân Torri Calon: Sarah Mcloughlan - In the Arms of an Angel (o'r ffilm City Of Angels)
Cân yn y Car: Big Leaves - Seithenyn
Cân nos Wener: Bryn Fôn - Un Funud Fach
Cân Snog Gyntaf: Ysbryd y Nos - Edward H. Dafis
Cân Creu Argraff ar Ddyn: Alanah Miles - Black Velvet
Cân Gyntaf mewn Parti: Y Cyrff - Cymru, Lloegr a Llanrwst
Cas Gân: Madonna - Like a Virgin
Albym Gorau: Pink - Try This
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.