Main content

NOW... Gwnewch Offeryn

A yw eich bin ailgylchu chi’n gorlifo ar hyn o bryd? Ydy eich tŷ chi yn rhy dawel? Hoffech chi gael cerddorfa yn eich ystafell fyw? Os ydy hyn yn ‘WIR’, dyma gyfle i chi uno cerddoriaeth a chelf a chrefft a’n helpu ni i greu cerddorfa o ddeunyddiau ail-gylchu.

BETH YW’R PROSIECT?
Pob wythnos byddwn yn gosod cyfarwyddiadau ar ein gwefan a’n gwefannau cymdeithasol i’ch helpu chi i greu offeryn cerddorol o eitemau o amgylch eich cartef… bydd yn hwyl i bawb!
Bydd cerddorion Â鶹Éç NOW yn rhannu eu hymdrechion nhw ar ein gwefannau cymdeithasol a hoffen ni weld beth rydych chi wedi llwyddo i’w wneud hefyd – mae croeso i bobl o bob oedran i gyfrannu.
Byddwn yn rhannu eich lluniau chi ar ein gwefannau cymdeithasol ac rydyn ni’n gobeithio datblygu’r prosiect ymhellach i gyd-weithio gydag artist, a hyd yn oed ceisio creu offerynnau cerddorol o lysiau- gwyliwch y gofod!

SUT I GYMERYD RHAN!
Byddwn ni’n ychwanegu cyfarwyddiadau newydd yn wythnosol.

Neu, gwyliwch ein gwestai arbennig, Gwenllian Hâf MacDonald sy’n feiolinydd gyda Â鶹Éç NOW, yn dangos i chi sut i greu eich offerynnau cerdd eich hun allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Cyn bo hir, bydd gennych eich cerddorfa eich hun yn eich ystafell fyw!

Yna gallwch naill ai:

1: Ein tagio ni ar y gwefannau cymdiethasol:
Trydar: @Â鶹ÉçNOWCymraeg
Facebook: Â鶹Éç National Orchestra of Wales
Instagram: @_bbcnow

2: Cysylltwch â ni gyda’ch lluniau ac i ddweud wrthon ni o ba ardal rydych chi’n dod.
Hefyd, rhowch wybod i ni sut oeddech chi’n teimlo wrth greu’r offeryn!
Anfonwch eich neges at: now@bbc.co.uk