"Gap" gan Gwenno Gwilym
Gwenno Gwilym, Bardd Mis Chwefror - cerdd am fod yn riant
Gap
Wel, Miss Gwilym, mae ganddoch flynyddoedd o brofiad yn y maes, ond allwch chi esbonio beth rydych wedi bod yn wneud dros y bum mlynedd ddiwethaf?
Rheolwr Prosiect Plentyndod Hapus
Cydlynydd Rhaglen Pi-Pi’n Poti
Swyddog Brand Aros Adref i Fagu Plant
Prif Ddarparwr yr Iaith Gymraeg
Uwch Swyddog Ymgyrch Bwyta Llysiau
Cydlynydd Tri Pryd o Fwyd Iach y Dydd
Sefydlwr Rhaglen Gwely ar Amser
Dadansoddwr Agor Dy Geg a Dangos Be Sy’ Na’
Atebwr Cwestiynnau Llawn Amser
Cyd-drefnydd Gweithgareddau Ewch Allan o TÅ· (Rhannu Swydd)
Sychwr Dagrau Ganol Nos
Gwirfoddolwr Rhoi Pob Dim Nôl yn y Cwpwrdd
Pennaeth Paentio Gwyneb Calan Gaeaf
Porthor Cegin
Llywodraethwr Teledu Addas i Blant Dan Bump
Gyrrwr Tacsi Achlysurol
Hwylusydd Gwersi Nofio
Goruchwyliwr Ffrâm Ddringo
Cymredolwr Cyw
Arbenigwraig Dosbarthu Calpol yn y Tywyllwch
Cynorthwy-ydd Poeni am Ddyfodol Ein Priodas ar ôl Gwyliau Campio Gwlyb
Gweinyddwr Siopa Bwyd
Dylunydd Gwisg Ffansi Munud Olaf
Cogydd Llawn Amser
Gweithredwraig Golchi Dillad
Datryswr Tantryms Arall Fydol
Prif Weithredwr TÅ· Ni
Gwenno Gwilym
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Jennifer Jones yn cyflwyno
-
Gwersi Dysgu Cymraeg
Hyd: 10:02
-
"Nye", Aneurin Bevan
Hyd: 10:34
Mwy o glipiau Dros Ginio
-
Ydy mynd ar feic trydan yn seiclo go iawn?
Hyd: 08:45
-
Beth yw'r ffordd orau o ddiswyddo gweithwyr?
Hyd: 07:19
-
Englynion a chynlluniau ar gerrig beddi
Hyd: 10:37