Bardd Mis Chwefror - Sion Tomos Owen
Bardd y Mis, Sion Tomos Owen, sy'n trafod ei ddewisiadau cerddorol
鈥淣O DANCE MUSIC IN THE MAIN HALL鈥
ar 么l Pentre & Ystrad Labour Club, 2001
Yng ngrombil atgofion fy arddegau
ar bigau drain i fwynhau nos Wener,
gyda llai na tenner yn fy mhoced
i ddal tren lawr y cwm,
y lynx africa'n swmpus yn y cerbyd,
y posibiliadau enbyd,
j卯ns digon tyn i frifo
ac yn dal i ddysgu'r gwahaniaeth
rhwng goth ac emo.
Yr un poster bob tro:
"Friday Night band showcase
拢3 entrance
NO DANCE MUSIC IN THE MAIN HALL!鈥
Mewn llythrennau bras
O dan y disco ball
Ym m么l y fuwch
Uwchben y Labour Club.
Camau ysgafn trwy drysau trwm,
hwn oedd y ddefod heb dafod,
dim trafod wrth y lounge bar,
i wahannu'r genhedlaeth
gyda grisiau,
a prisiau wedi pegio,
Gwyn llachar yn erbyn y du,
ar yr unig wal heb anaglypta
a'r barmaid 'da tattoo o'i chariad presenol
ar y fraich oedd yn tynnu'r peints
neu'n taflu chi mas.
Grwpiau glasoed,
gwynebau gwyn llachar,
o dan gwallt du,
a rheini lawr st芒r
yn syllu'n syn ar dyllau mewn clustiau
yn fwy na鈥檌 cegau agored.
Fel pysgod
Yn ein m么r o "gerddoriaeth".
Yn aros am y llanw stormus
ddaw o'r drum kit,
mellt yn ein traed
yn tarranu yn mhob mosh pit.
Bob yn ail weekend
welai'r boi o鈥檙 chweched
Yn troi mewn i ddyn,
Yn rhedeg ei fysedd
Dros gyllell o gitar
A crafu riff anniben i mewn i鈥檓 mhen,
脗 bwyell o f芒s
yn dirgrynnu nghalon yn lythrenol
Gan bo鈥檌 Marshall stack yn fyddarol,
Tinitus yn uno pawb,
fel y stamp ar gefn llaw,
dal yna'r bore nesa,
yn brawf o' chi yna.
Ac er bod y canu wastad yn Yoko
y j么c oedd bo band gallu ffurfio ar n么s Iau
ac agor y noson wedyn,
yr hedyn o obaith
bod taith yn bosib
(Neu ail gig o leia).
Y llen melfed coch
yn cael ei dynnu i'r ochr
芒 rhochian llais Nu Metal
yn dechrau sgrechian i mewn i'r mic
a'r fight anochel ddaw cyn
i Freddie a'i rhapsody
rhoi'r ffidil yn y sound system,
mayhem bach diniwed ar ddiwedd y n么s
yn troi'r golau 'mlaen,
yn wyn llachar ar 么l y du,
i ddanfon bawb shathre
ar bererindod i ffeindio car mam a dad,
kebab neu i grwydro tan hwyr
yn deall fydden ni'n fyddar tan fory
heb wybod eto taw hiraeth
oedd yn canu yn ein clustiau.
Sion Tomos Owen
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Bardd y Mis - Sion Tomos Owen
-
Ffion Wyn - Ladies of Rage
Hyd: 06:52
Mwy o glipiau Rhys Mwyn
-
Diffiniad yn y stiwdio
Hyd: 03:02
-
Gruff Rhys a ffilm newydd am Ffa Coffi Pawb
Hyd: 10:03