Main content

Hela’r Dryw Bach

Grug Muse, Bardd y Mis, a cherdd am yr hen draddodiad o hela'r dryw bach

Hela’r Dryw Bach

Dwi’n ei hela yn y coed ac yn y caeau.
Yn ei ddilyn trwy ddail eiddew, heibio
tafodau’r menyn eithin a brigau’r celyn
ond mae’n rhu chwim. Mae’n troi yn
eog, y tric arferol, a dwi’n plymio
mewn i’r afon, yn ei geisio yn y dyfroedd
oer-las, eirias, dŵr sy’n drydan drwy’r tu
mewn.

Ond mae o’n chwerthin am fy mhen, yn llamu
fyny’r pistyll a throi yn llwynog cringoch,
ac yn rhedeg am y dre. A dwi’n
dal i’w ddilyn, trwy’r strydoedd prysur
a’u golau pinc a gwyrdd a gwyn,
ond mae’n diflannu yn y dorf.

Y tro nesa dwi’n ei weld dwi’n gyrru i’r gwaith,
ac mae’n croesi’r lôn o’m blaen yn
ddarn o bapur lapio, neu’n robin goch,
neu’n ddeilen grin. Ac mae’r wawr sy’n torri
o mor hwyr yn taflu ei llwch i mewn i’m llygaid a’m dallu.
Ac mae’n diflannu eto, yn troi yn lwmp
o lo, yn bapur ddoe, yn droed ôl draenog,
yn benglog bran, yn bwdin plwm, yn fwlb
wedi torri, yn faneg goll, yn ‘turkey meal
for one’, yn set monopoly, yn goron gracer,
yn fatsien.

Neithiwr, mi welais y dryw bach
ar lain o wair a phwt o wrych
rhwng cefnau’r tai a’r briffordd.
Y brenin bach a’i big yn y bregliach
yn chwilio am dyfiant newydd.

Grug Muse

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau

Daw'r clip hwn o