Main content

Cystadleuaeth Sgwennu Stori

Llio Maddocks beirniad Cystadleuaeth Sgwennu Stori rhaglen Aled ar gyfer 2021

Sgwennu Stori Aled Hughes

Mae rhaglen Aled Hughes ar Â鶹Éç Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru.

Rydym yn galw ar y disgyblion i ysgrifennu stori o ddim mwy na 500 gair ar thema "Y Llwybr Hud".

Mae tri chategori –

• Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed
• Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed
• Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed

Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen yn ystod yr wythnos sy’n arwain fyny at Ddiwrnod y Llyfr, a bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau.

Llio Maddocks yw’r beirniad fydd yn pori drwy'r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, ar 15 Rhagfyr 2020.

Os am gystadlu, rhaid i'r ysgol anfon eu straeon drwy’r ysgol (ynghyd a ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, Ionawr 25ain, 2021.

Y cyfeiriad yw:

Stori Fer Aled Hughes
Â鶹Éç Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi'n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda. Bydd angen i'r ysgol gadw rhestr o'r enwau sy'n cyd-fynd a'r ffugenwau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk

POB LWC!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

7 o funudau