Ceri Wyn Jones - Bardd y Mis - mis Tachwedd
Cowbois ac Indians
Plentyndod ofnadwy o boring ges i
heb Xbox, na Netflix na chwaith Es-ffôr-sî;
plentyndod tair-sianel y bocs du-a-gwyn,
plentyndod y perci yng nghôl Pen-y-bryn.
Plentyndod Blue Peter ac ofn Doctor Who,
plentyndod o fynd ar fy meic nefi-blŵ,
ac esgus fy mod i yn gwasgu y clytsh
mewn Ford Gran Torino fel Starsky a Hutch.
Plentyndod o gapel a chico pêl, glei,
o ddysgu fy adnod cyn Match of the Day,
a chwarae gêm Germans a British o hyd,
neu Cowbois ac Indians, yn gynnen i gyd.
Er nad yw plentyndod fy meibion â’u sgrîn
yn debyg i hynny, mae’r gemau yr un,
sef ymladd, anturio a saethu ar ras –
er mwyn bod yn llwyddiant, mae’n rhaid bod yn gas.
’Run modd, sdim ’di newid ym Mhrydain, dim byd,
mae rhai’n chwarae Germans a British o hyd;
a draw yn y States y mae rhai’n gweld y byd
fel brwydyr rhwng Cowbois ac Indians o hyd.
Ceri Wyn Jones