Main content

15 mlynedd ers y gem ola' ar y Vetch, Abertawe

Er cof am gae’r Vetch

Rhy hen i ’fory, rhy brin o fariau,
rhy gap a mwffler yr hen amserau,
rhy wyn a du, rhy hawdd i’w droi’n deiau,
ac wrth i’r ddinas racso’r terasau
fe wn na welaf innau – fyth rhagor
yno’r un Ivor, na’r hen aeafau.

Cae’r Vetch
(sy’n rhandiroedd bellach)

Mae’r Vetch yn gabetsh i gyd,
yn dew gan arddwyr diwyd;
yn ddi-hid carfan a ddaeth
i balu fy mabolaeth,
i droi Eden yr enaid
yn bys, yn bannas di-baid,
ac ar y maes bags Grow-more
a saif lle dawnsiai Ivor,
ein Ifor Hael. Gwael yw gwedd
y moron lle bu mawredd.
A chof yn fresych hefyd
mae’r Vetch yn gabetsh i gyd.

Y Prifardd Idris Reynolds

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau