Gwers siarad yn glir i Aled!
Mae'r Royal Shakespeare Companty wedi sefydlu campfa eiriol y ddysgu actorion sut i ynganu'n glir a defnyddio'r llais yn effeithiol.
Mae llawer o gwyno nad ydi actorion teledu yn siarad yn glir.
Mae actorion angen cael cyhyrau’r ceg i weithio er mwyn ymdopi gyda rhythm brawddegau, a iaith liwgar a heriol. Mae actor angen ymarfer cyhyrau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn naturiol bob dydd.
Yng nghyfnod Shakespeare bu Rhian ym mhrifysgol Aberystwyth fel myfyrwraig lle daeth hi dan ddylanwad Emily Davies – a oedd yn rhoi pwyslais ar lais ac ynganu. Mae Rhian ei hun fel darlithwraig rwan yn trwytho ei myfyrwyr yn Shakespeare.
Yng nghyfnod Shakespeare – roedd dramau i’w clywed yn hytrach na’u gweld. Wrth gwrs yn oes Elisabeth 1 – roedd drama i’w chlywed yn hytrach na’i gweld – doedd dim goleuo fel heddiw, a roedd y props a’r set yn llai pwysig. Roedd cynulleidfa theatr yr oes wedi datblygu clustiau main iawn. Roedd yr actorion yn mynegi eu hunain drwy iaith yn bennaf felly roedd rhythm, swn, goslef, a thaflu llais yn hanfodol er mwyn rhoi ystyr ac emosiwn i’r frawddeg.
Mae Rhian ei hun wedi chwarae rhan mewn cynyrchiadau o ddramau Shakepeare ac yn gwybod be di’r heriau i actor. Roedd Shakespeare yn creu geiriau newydd heriol, ac yn aml iawn gyda golygfeydd o ddawns ar ddiwedd dramau. Mae angen i’r actorion fod yn gorfforol heini er mwyn perfformio ei waith.
Roedd Shakespeare yn fardd ac yn creu brawddegau efo 5 curiad calon neu yn 5 carlam ceffyl. Dyna sy yn gwenud Shakespeare mor arbennig – roedd o mor agos at ei gynulleidfa – tydi ei waith ddim yn anodd o gwbl.
Roedd 10 sill i linellau Shakespeare – roedd unrhyw beth o dan neu dros 10 yn cyfleu stad meddwl y cymeriad.
Gall cynulleidfa Gymraeg ddeall Shakespeare achos mae’r fframwaith yn debyg i gerdd dant neu’r gynghanedd. Mae'r defnydd o gytseiniaid, llafariad hir ac atalnodi, i gyd yn bwysig.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Bardd y Mis Ionawr 2025
Hyd: 10:19
-
Alfred Nobel yn...Llanberis?!
Hyd: 11:31
-
Mi fyswn i'n hoffi... Rhedeg mwy yn 2025
Hyd: 07:02