Main content
Caryl Bryn - Bardd y Mis
‘Pan Fyddan Ni yn Symud’, Llys Arfon 2019.
Yn ‘Och!’ a hyff, awn yn chwys
i bacio’n bydoedd mewn bocsys –
pacio’n tapia’ Cowbois llwch
mewn hen dudalenna’ Barddas
a lapio dodrefn rhad a brau
mewn crysa’-t Cymdeithas
a phacio’n pryderon
sy’n bigau ar eithin
a’r petalau melynion
yn ysu blaguro ers meitin -
a phacio’n lluniau du a gwyn
i’w troi, mewn tro, yn lluniau lliw
a fodca stêl hwyr nos Sul
yn rysêit blêr i lywio’n byd.
Ein hiaith ein hunain ‘rhyd y walia’n
greithiau,
yn fflamau –
ai ffliwc hen swyn sy’n gwasgu’n dau
fel dafnau plu drwy dwll y clo
ynta
fel’na’m gwnaed ni
a fel hyn ‘dan ni ‘fod?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2019 - Caryl Bryn—Gwybodaeth
Caryl Bryn yw bardd Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2019.