Main content
Enwi Cariad
Cerdd gan fardd y mis Morgan Owen i ddathlu Dydd Santes Dwynwen.
Codi’r haenau dwfn; tynnu’r egin o’r pridd;
disgwyl y dydd heb weld y glasu
ac esgyn heb sylwi i’r brig;
cyrchfan i’r crwydro fu gynt
heb nod; lluwchfeydd manod;
y llawr danat pan fo’r byd yn llwm;
dwy galon yn fwrlwm;
gwybod fod sêr o hyd
hwnt i olau’r ddinas; cymod galanas;
carreg ateb i lais unig;
ailgodi’r meini ysig;
adnabod mewn torf;
meysydd haf heb oror;
wedi tryblith, hedd; weithiau anhunedd;
breuddwyd nad oes mo’i diwallu,
a’r byd ar wastad dau: ni.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2019 - Morgan Owen—Gwybodaeth
Morgan Owen yw bardd Radio Cymru ar gyfer Ionawr 2019.