TREIAL ELIFFANT - MIHANGEL MORGAN
Cerdd gan Mihangel Morgan - Treial Eliffant
Treial Eliffant
(Cynhelid achosion llys yn erbyn anifeiliaid yn aml iawn yn yr oesoedd canol. Dygwyd creaduriaid megis moch, mulod, llygod, buchod a phryfed, hyd yn oed, o flaen 鈥渆u gwell鈥. Er i鈥檙 arfer hwn ddod i ben erbyn y ddeunawfed ganrif, yn America ar Ionawr 4, 1903, dienyddiwyd eliffant o鈥檙 enw Topsy. Fe鈥檌 cyhuddwyd o fod yn 鈥渆liffant drwg鈥, er na chynhaliwyd prawf yn ei herbyn mewn gwirionedd, a phenderfynwyd ei dienyddio. Er mwyn ei lladd bwydwyd gwenwyn iddi, fe鈥檌 trydanwyd ac fe鈥檌 tagwyd 鈥 y trydan a鈥檌 lladdodd hi yn y diwedd. Ffilmiwyd y digwyddiad ofnadwy hwn.
Yr eliffant yw symbol y Blaid Weriniaethol yn America.)
O鈥檙 holl anifeiliaid yn y sw i gyd
Tydi Topsy sy鈥檔 creu trafferth o hyd.
Maen nhw鈥檔 dweud dy fod wedi lladd un neu ddau,
Felly, rhaid cynnal prawf, er gwir neu gau.
A dyma ti鈥檔 sefyll o鈥檔 blaenau ni鈥檔 awr,
Yn llwyd i gyd ac yn glustiau mawr.
Ry鈥檔 ni Americanwyr yn hoff o ddial,
A dyna pam ry鈥檔 ni鈥檔 cynnal treial.
Er mwyn gweithio ma鈥檚 pwy sydd ar fai,
A chanfod y gwir, fwy neu lai.
Nawr te, Mr Reilly, dywedwch i ni,
Os cofiwch yn iawn, be鈥 ddigwyddodd i chwi?
鈥淢ae鈥檙 cof yn pallu, mae鈥檙 cyfan yn fwg,
ond rwy鈥檔 eitha siwr roedd e鈥檔 rhywbeth drwg.
Ac er nad wy鈥檔 ffyddiog, cant y cant,
Y taeog, rwy鈥檔 credu, oedd yr eliffant.
Dwi ddim yn cofio鈥檙 lleoliad na鈥檙 awr
Ond roedd yr ymosodwr yn greadur mawr.
A dyna鈥檙 peth nawr, o flaen y llys.
鈥楥o dyna hi, lle rwy鈥檔 pwyntio fy mys.鈥
Ie, dyna chi Topsy, y paciderm ewn.
A dyma鈥檙 tyst nesa. Dewch i mewn.
Nawr Mr Murphy, dywedwch yn blaen
Am eich profiad ofnadw, ewch ymlaen.
鈥淩oedd hi鈥檔 noson ddychrynllyd dywyll bol buwch
A finnau鈥檔 betrus...鈥 Siaradwch yn uwch!
鈥淎 finnau鈥檔 betrus fel deryn mewn llaw,
fe鈥檓 gwthiwyd o鈥檙 cefn ac fe gwmpes mewn baw
A Topsy a鈥檓 gwthiodd, o hynny rwy鈥檔 siwr.
Dwi鈥檔 hynod o nerfus, ga鈥檌 ddiferyn o ddwr?鈥
Diolch Mr Murphy am eich tystiolaeth glir.
Bob yn gam ry鈥檔 ni鈥檔 nes谩u at y gwir.
Mae鈥檙 cyhuddwyr yn onest, rhaid derbyn eu gair.
I鈥檙 ddalfa 芒 Topsy, heb siwgr, heb wair.
Mae hi鈥檔 amlwg yn euog, wath ddywedodd hi ddim.
Mae鈥檔 haeddu鈥檙 gosb eitha, ddidrugaredd a llym,
Sef gwenwyn a thrydan a rhaff am ei llwnc
A chlymu鈥檌 choesau, ei phen a鈥檌 thrwnc.
Wel, dyna ti Topsy, serfia di鈥檔 reit.
Fe鈥檛h gafwyd yn euog. Rhwymwch hi鈥檔 deit.
Ac fe laddwyd yr hen Dopsy o flaen criw o bobl.
Er gwaetha鈥檙 creulondeb roedd hi鈥檔 farwolaeth nobl.
Mihangel Morgan
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2018 - Mihangel Morgan—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Hydref 2018 yw Mihangel Morgan.