Mihangel Morgan - Hydref
Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn.
Anorfod yw pob newid yn ei dro.
Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn.
Llwyd, du a choch yn hagru’r glesni mwyn;
Dail crin a melyn hyd y llawr ar ffo;
Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn.
Y gwres; byrhoedlog yw’i serch a’i swyn,
Ni phery’n hir ei harddwch brau pan fo
Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn.
Ymhlyg yng nghân yr awel clywir cwyn,
Fel rhybudd trist y doethion dan y gro.
Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn.
Hydreiddia naws farugog hyd y brwyn
Ar batrwm cywrain dirgel dwfn ym mro
Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn.
Mae’r prudd ystwyrian hudol nawr yn dwyn
Ffug degwch arlliw ddiwedd haf i go’,
Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn,
Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn.
Mihangel Morgan
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2018 - Mihangel Morgan—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Hydref 2018 yw Mihangel Morgan.