Diwrnod 2 - Taith Feics Al Hughes
"Fe bedlodd fel corwynt a鈥檌 goesau fel plwm!"
Ail ddiwrnod y daith wedi bod yn wych, o Gaerfyrddin i Langrannog.
Diolch i bawb daeth allan i gefnogi!
"Fe bedlodd fel corwynt a鈥檌 goesau fel plwm!"
Ail ddiwrnod y daith wedi bod yn wych, o Gaerfyrddin i Langrannog.
Diolch i Heiddwen Tomos, Bardd y Mis, am y gerdd, ac i bawb daeth allan i gefnogi.
-----
Taith feics
Fel wipet, daeth Aled yn gysgod ar ben beic
A鈥檌 drowser yn dynn a鈥檌 fochau yn wyn.
Trwy鈥檙 gwynt a鈥檙 glaw a鈥檙 heulwen
Fe drodd ar lwybr hir,
A鈥檌 chwys fel cot.
Fe bedlodd drwy Ferthyr,
Fe bedlodd drwy鈥檙 cwm,
Fe bedlodd fel corwynt a鈥檌 goesau fel plwm.
Draw am G鈥檉yrddin yn tynnu fel tr锚n
A鈥檌 wegil yn gwegian
Fe deimlodd yn hen.
Roedd Pydsi yn aros, roedd Pydsi yn ffrind,
R么l chwythu, pwldagu
Roedd milltiroedd i fynd.
Roedd gelyn y gwynt
Yn ei dynnu yn 么l
A Dewi fel roced
Yn raso drwy鈥檙 dd么l.
Fe gorcodd ei galon,
Fe siglodd fel brwyn
Roedd mynyddoedd o straffaglu,
Heb le i鈥檙 un g诺yn.
R鈥櫭磍 cyrraedd copa greithiog
A鈥檙 glaw fel carped gwlyb
Roedd neidr hir yr hewlydd
Yn codi, codi sb卯d.
Fe fwron ddyffryn Teifi fel bwlet mas o wn
A theiers wedi troelo wrth ddringo mas o鈥檙 cwm.
Am lawr yr aethant wedyn gan gyrraedd 68
a throi am Aberystwyth
fel dou geit.
鈥淗ei Dewi!鈥 gwaeddodd Aled,
鈥淒al mewn er mwyn dyn.
Ma nghoesau i yn tynnu,
a ngheg i鈥檔 sych a chrin!鈥
Fe felltodd y cwbwl wedyn
Nes hollti鈥檙 dydd yn nos
A choesau bach r鈥檋en Aled
Bedlodd drwy bob ffos.
O 鈥檙 de i鈥檙 gogledd wedyn a thuchan lan rhyw bant
roedd talcen chwys yn sheino a nhwythau鈥檔 bwrw鈥檙 cant.
Ei goesau bach fel brigau
Yng nghanol corwynt fawr,
Fe aeth fel Shot
A glwychu ei got,
Rhai cadw fynd am nawr.
Fel pryfyn yn y pellter.
Fe wellodd damaid bach
Pan ddaeth yr haul a鈥檌 freichiau
A chrasu鈥檙 awyr iach.
Ni fuodd erioed cyn balched
Na chyrraedd pen ei daith
a phlant bach Cymru gyfan
yn clapio am amser maith.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Taith Feics Aled Hughes—Aled Hughes, Taith Feics 2017
Wythnos o raglenni'n gysylltiedig ag ail daith feics Aled, er budd Plant Mewn Angen.
Bardd Tachwedd 2017 - Heiddwen Tomos—Gwybodaeth
Heiddwen Tomos yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2017.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Bardd y Mis Ionawr 2025
Hyd: 10:19
-
Alfred Nobel yn...Llanberis?!
Hyd: 11:31
-
Mi fyswn i'n hoffi... Rhedeg mwy yn 2025
Hyd: 07:02