Cerdd Wythnos Dementia 'Cymydog'
gan fardd y mis Geraint Lloyd Owen
Cymydog
yn Ysbyty Alzheimer’s, Bryn Seiont, Caernarfon
Wrth lusgo’i ffrâm lydan
at wydr y cartref
yn ward anghofrwydd
fe’i gwelwn fel coeden gnotiog
yn bwrw’i gwreiddiau
wrth wres tân trydan.
Roedd ei lais
mor arw a rhisgl,
ei ddwylo yn geinciau i gyd
a phridd ei gynefin
o dan ewinedd ei fodolaeth.
Ond ar ei ddyfodiad i’r ward
medrwn ffroeni drachefn
arogleuon gweiriau
ac anadlu’r pridd a’r haul.
Cyfarwydd yr adar ydoedd.
Deuent yn enfysau byw
at droed ei wely fin hwyr.
Clywai nodau eu cân
nes diferu ohonynt
yn ddefnynnau hud
drwy ddrysni ei farf,
a gwelai brintiadau eu traed
yn troi’n eiriau
yng ngaeaf tragwyddol yr ardd.
Yntau’n adrodd y stori
drachefn a thrachefn
ar wynder gwely ei lofft
cyn i gwsg anesmwyth
gloi’r amrannau yn dynn.
Bellach yn ei fodfedd fyd
y mae o wedi’i gloi
mewn cartref,
mewn ystafell,
mewn cadair
wrth wres tân trydan,
a’r wynebau cyfarwydd gynt
yn wynebau dieithr mwy.
Tydio’n cofio dim
nac yn adnabod neb.
A thrwy wydr yn unig
y gwêl o’r byd gloyw hwnnw
oedd iddo unwaith yn bod.
Geraint Lloyd Owen.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2017 - Geraint Lloyd Owen—Gwybodaeth
Geraint Lloyd Owen yw bardd radio Cymru ar gyfer Mis Mai 2017.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Bardd y Mis Ionawr 2025
Hyd: 10:19
-
Alfred Nobel yn...Llanberis?!
Hyd: 11:31
-
Mi fyswn i'n hoffi... Rhedeg mwy yn 2025
Hyd: 07:02