Main content
Mehefin 2016
Pan faglodd Ian Rush, yn goesau i gyd,
y bêl i’r rhwyd yn ôl yn ‘91,
pan gurodd Cymru fach bencampwyr byd,
mi neidiais i i’r awyr gyda’r dyn...
ond roedd y lôn rhwng Aber a Chaerdydd
yn lôn o ddagrau yn 2003,
a Rwsia wedi dryllio breuddwyd ffydd –
doedd ’58 yn ddim ond rhif i mi.
Ond daeth yr awr, pryd bydd yr un ar ddeg
yn camu i’r maes, a gwn, drwy’r fonllef lon,
bod pob un deigryn, gwg, a gwaedd a rheg
yn ernes am yr union eiliad hon.
Mae gwlad yn dal ei hana’l unwaith ‘to,
A’r reff ar fin chwibanu yn Bordeaux.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mehefin 2016 - Hywel Griffiths—Gwybodaeth
Cerddi gan Hywel Griffiths, Bardd Mis Mehefin 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹Éç Radio Cymru.