Main content

Gruffudd Owen - Y Pethau Bychain

Cerdd gan Bardd y Mis - Gruffudd Owen.

Y Pethau Bychain.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, dwi'n addo 'lenni gwnaf
wirioni ar y blodau aur sy'n datgan y daw'r haf.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, fel hwylio panad iawn
a hidio befo os di'r sgwrs yn para drwy'r prynhawn.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, cael amser chdi a fi
a thaenu'n geiriau hyd y bwrdd fel briwsion teisan gri.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, mi gofia'i godi'r ffôn
a chefnogi'r siop fach leol sydd ond i fyny'r lon.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, y jobsys diflas lu
fu'n crefu'i gwneud ers misoedd maith ar hyd a lled y tÅ·.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, gwneud safiad dros yr iaith,
a herio bob un celwydd noeth sy'n esgus bod yn ffaith.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, fel bwydo'r adar to
fu'n hir newynu yn fy ngardd, a phlygu'r papur bro.

Mi wnâi'r holl bethau bychain, os ga i hanner awr
o lonydd rhag y pethau hurt sy'n esgus bod nhw'n fawr.

Mi wnâi' holl bethau bychain, mae'n amser newid byd,
i gyd yn enw Dewi Sant....dwi'n addo gwnâi... rhyw bryd.

Gruffudd Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...