Aled Lewis Evans - Tra Bo...
TRA BO...
(Ar ddiwedd blwyddyn, gan edrych ymlaen at 2016 ac i ddiolch i’r dysgwyr)
Tra bo Rhos yn dal i ganu,
tra bo dŵr yn nyfroedd Dyfrdwy,
cyn i Fwlchgwyn ildio’i go’
tra bo dur ym mêr y Brymbo.
Tra bo trem ar dŵr San Silyn,
a thramwyo llwybrau Alun
Tra bo mwynder dyfroedd Gwenfro
yn dal i gynnig rhin noswylio.
Tra bo ywen draw yn Owrtyn,
tra bo tinc yng nghlych y llan,
Tra bo cariad mewn calonnau
O’r tywyllwch cyrchwn olau.
Tra bo traphont Froncysyllte
A Choedpoeth yn dal i ‘gomio’,
Tra bydd dysgwyr hyd hen oror
Yn ail-gydio yn ein trysor.
Aled Lewis Evans
Blwyddyn Newydd dda.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Aled Lewis Evans—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Rhagyr 2015.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹Éç Radio Cymru.
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39