Cerdd Adfent Aled Lewis Evans
Cerdd newydd gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Rhagfyr, Aled Lewis Evans.
Adfent
(Cadeirlan Anglicanaidd Lerpwl a'i breseb cyfoes blynyddol)
Gosodwyd yr olygfa,
paratowyd y set;
y gragen yn ei lle,
a disgwyl a dyheu
am glywed
camau yn nesáu.
Preseb maint llawn yn ei le eto,
yn barod i ninnau gamu i mewn iddo,
a rhyfeddu;
ond run o'r cymeriadau cyfarwydd
eto
wedi mentro
ar eu taith anodd tuag yno.
'Run bugail, brenin,
na Baban wedi cyrraedd eto.
Tybed a fentrwn ninnau ar siwrne eleni?
Neu adael y preseb yn noeth fel hyn –
heb run o'r cymeriadau
a ddawnsiodd eu ffordd i'n calonnau brwd
un bore gwyn?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Aled Lewis Evans—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Rhagyr 2015.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹Éç Radio Cymru.
Mwy o glipiau Aled Lewis Evans
-
Her i Fardd y Mis
Hyd: 00:56
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39