Aylan Kurdi - cerdd Anni LlÅ·n
Cerdd Aylan Kurdi
Mor hegar yw’r darlun.
Sgrech oer yng ngwyneb dyn.
Plentyn.
Rhwng y môr a’r tywod,
yn y gwacter creulon,
fel gwymon y mae’n gorwedd.
Ai erchyllterau dechrau’r daith
oedd bwrdwn ei freuddwyd olaf?
Neu’r traeth hwn,
a’i dywod celwyddog
yn cynnig castell i’w warchod?
Dwn i ddim.
Ond nid yw’n ddarlun i’w gam-ddehongli.
Ydi, mae’n cynrychioli,
mae’n mynnu,
mae’n arf perswâd.
Mae’r gwacter creulon yn ffin arall
sydd ar fin chwalu.
Ac ystyriwn,
tu hwnt i hwn
mae yno filoedd.
Ond yma,
dim ond un,
yn farw.
Plentyn.
Anni LlÅ·n
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹Éç Radio Cymru.
Mwy o glipiau 08/09/2015
-
Dosbarthu nwyddau i'r ffoaduriaid.
Hyd: 10:54
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39