Main content
Y GL脢R: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Seremoni
Martsia鈥檙 munudau yn araf fel mwg
o鈥檙 clochdy stond. Tros rai aeth fesul gyrr
i'r meysydd, gwedd茂wn nid rhag pob drwg
ond rhag bod pob diniweidrwydd mor fyr.
Carthwn y ffosydd o'r wleidyddiaeth sgrech
a'u hagorodd; nyddwn bab茂au punt
i wisgoedd ein plant. Diolchwn mai trech
gair na gwn; bod Awst yn l芒n ar y gwynt.
A dadebrwn i gyfeiliant corn gwlad
a'i ryfelgri; yn goch gan iaith plediwn
achos ein hogiau ni ar faes y gad.
Ac os felly eleni ni chroeswn,
o dan faner sy'n hanner cyhwfan,
fyth y tir neb at galon cyflafan.
Osian Rhys Jones (Eurig Salisbury yn darllen)
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ffeinal y Talwrn
-
CAERNARFON: Englyn - Gweithdy
Hyd: 00:12
-
Y GL脢R: Englyn - Gweithdy
Hyd: 00:15
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Y Gl锚r a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19