Main content

CRIW'R SHIP: Cân ysgafn 'Golau Glas'

Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Dyma nhw yn dod.
Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Maen nhw’n gwbod be sy’n bod.

Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Mae’r sŵn yn agosáu
Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Y seiren yn dwysáu.

Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Y cerbyd ddaw ar ras
Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na,
A’r nef yn fflachio’n las.

Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Achubwyr achos brys
Ni-na, ni-na, ni-na, ni-na.
Yn lleddfu’r poen a’r chwys.

Bob tro y daw yr alwad
Maen nhw’n ateb yn ddi-ffael.
Paramedics Barddas,
Ymgeledd i fardd gwael.

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

52 eiliad