Main content

Cerdd Rydd: Hwyrach.

Hwyrach fory, daw awen
a cherdd neu ddwy gyda hi
sy鈥檔 plethu rhwng llinellau
syniad tlws i鈥檓 geiriau i.

Hwyrach fory, caf ddringo
yn uwch ac yn uwch o hyd
a gwenu o gael edrych
ar dlysni pellteroedd byd.

Hwyrach fory, sibrydaf
yn dawel un neges fach
鈥榤od innau yn dy garu,
cyn i鈥檙 diwrnod ganu鈥檔 iach.

Ond heddiw rwyf yn eistedd
a phwysau鈥檙 byd ar fy mod
a sylwaf innau, hwyrach
na fydd fory byth yn dod.

Catrin Gwyn

9.5

Cyfanswm Marciau: 54

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

40 eiliad

Daw'r clip hwn o