Dêt Cynta' Gabriel
Mae Keisha yn gofyn i Gabriel fynd allan ar ddêt - ei ddêt cyntaf erioed. Dydy Gabriel ddim yn siŵr ydy e eisiau mynd allan gyda hi ond mae Tony yn ei annog i dderbyn y cynnig.
Mae Keisha (13), merch o'r ysgol, yn gofyn i Gabriel (13) fynd allan ar ddêt - ei ddêt cyntaf erioed. Dydy Gabriel ddim yn siŵr ydy e eisiau mynd allan gyda merched eto ond mae Tony (13) yn ei annog i dderbyn y cynnig. Mae'r merched yn llawn cyffro dros Gabriel, ac yn mynd dros ben llestri, gyda phob un yn ceisio cynnig ffordd o leddfu nerfau Gabriel. Ar ddiwrnod y dêt, mae Gabriel wedi drysu'n llwyr gyda'r holl gyngor mae wedi'i gael gan ei ffrindiau. Wrth iddo gyfarch Keisha yn y parc, mae gweddill y grŵp yn cuddio mewn llwyni i weld pa rai o'u technegau sy'n gweithio orau. Wrth geisio defnyddio pob un o'u dulliau, dim ond llwyddo i ddychryn Keisha mae Gabriel. Mae hi'n meddwl ei fod e'n wallgof; a bod ei ffrindiau'n wallgof hefyd pan mae hi'n eu gweld nhw'n ymddangos o'r llwyni wrth iddi adael. Mae Gabriel yn gadael hefyd, gan ddweud wrth ei ffrindiau na ddylai fod wedi gwrando arnyn nhw. Mae'r ffrindiau'n difaru; mae Gabriel yn iawn, maen nhw wedi gwneud cawl o bethau. Mae Gabriel yn benderfynol o esbonio pethau i Keisha, ond wrth ei gweld hi'n dod mae'n colli ei hyder ac yn brysio i guddio. Daw Llion (13) o hyd i Gabriel a'i berswadio i siarad â Keisha; all o ddim cuddio am byth. O'r diwedd, mae Gabriel yn cyfaddef i Keisha fod ganddo amheuon am ddechrau mynd allan gyda merched ac mae'n ymddiheuro am ei ymddygiad. Mae Keisha yn maddau iddo - o'r diwedd mae Gabriel yn bod yn onest a diffuant.
Duration:
This clip is from
Featured in...
Tri Chwestiwn i Lara
Animeiddiadau ar gyfer ABCh - CA2 & CA3
More clips from Clipiau Dysgu
-
Ynys Enlli—Dysgu
Duration: 01:00
-
Sea Empress - Llygredd—Dysgu
Duration: 01:53
-
Ray Gravell—Dysgu
Duration: 02:31
-
Bryn Terfel Ifanc yn y Coleg—Dysgu
Duration: 03:53
More clips from Â鶹Éç Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹Éç Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00